Wednesday 15 January 2014

Rôl fy Narpar Wraig

Mae fy nghymar a finnau wedi bod yn caru ers blynyddoedd bellach. Rydyn ni'n gariadon mewn cariad, yn adnabod ein gilydd yn dda iawn ac yn ffrindiau pennaf. Byddwn wrth fy modd yn traethu'r stori ramantaidd wrthych a sôn am sut wnaethon ni gyfarfod ac ati, ond mae datgelu gormod yn beryg i mi. Rhaid i mi fod yn ofalus iawn beth a ddywedaf yn gyhoeddus wrth weithio â phobl ifanc. Ond, mi ddywedaf hyn, pan fu fy nghymar a finnau gyfarfod, roeddwn i yn y gwter. Wedyn, ac wedyn yn unig, cefais i'r freuddwyd, a'r hwb a'r gefnogaeth, i fod yn rhywun mwy na dyn ifanc tŷ cownsil ar y minimum wage.

Rydw i yn ei charu hi'n fwy na dim arall! Mae hi wedi bod yn gefnogol wrthyf ta waeth fy mhenderfyniadau. Does dim yn, nac wedi bod, yn ormod o drafferth iddi. Dim ond gofyn sydd rhaid i mi.

Ond, tra teimlaf fel methiant llwyr ac wrth fyw ym mhell yng nghanol iselder, anodd iawn yw medru siarad â hi am fy nheimladau. Anodd iawn ydy dweud fy mod eisiau gwneud un rhywbeth pan mae gennym yr amser i fod efo'n gilydd. Anodd iawn ydy mynd yn erbyn unrhyw beth y mae hi'n ei ddweud oherwydd ei sensitifrwydd hi ei hun. Yr wyf wedi byw â'r sensitifrwydd hwnnw ers yr holl flynyddoedd. Roedd ein personoliaeth ni'n dau yn hollol wahanol ar y cychwyn ond roedd o'n gweithio. Daethon ni at ein gilydd yn un o’r cychwyn cyntaf. Roedden ni'n dda iawn i'n gilydd. Er i mi siarad yn y gorffennol, yr ydym ni dal i fod!! Ceisio dweud ydw i - er ei bod hi'n sensitif, mae hi wedi gwella'n sylweddol!

Serch hynny, ar hyn o bryd, mae pethau'n cael ei wneud yn anoddach. Yr wyf innau ar un llaw yn cael trafferth fawr ymdopi â'i sensitifrwydd hi a hithau ar y llaw arall yn cael trafferth ymdopi â fy "mood" innau. Ac wrth reswm, mae hi'n anodd ar y ddau ohonom ni. Straen enfawr ar ein perthynas sydd yn ychwanegu at fy nheimladau iselder i heb os nac oni bai. Ond, dydy ei theimladau hithau ddim ar eu gorau ers yr holl beth ychwaith! Hithau hefyd wedi mynd i grio mwy er enghraifft. Cerdda hi weithiau â'i phen yn ei phlyg fel hen wraig. Fel bod y byd a'r betws wedi ei rhoi ar ei hysgwyddau hi. Edrycha hi weithiau fel ei bod hi mewn byd bach ei hun ac wrth edrych arni y byddaf yn gweld fy hun. Ac yn hynny o beth, mae'r gobaith mwyaf y tu mewn i mi, hefyd yn bwyta f'ymysgaroedd i, yn boen o feddwl os wneith hithau fynd ati i ddioddef y Salwch hwn yr wyf yn tystio gyda'm holl enaid am ei fodolaeth o. Y salwch hyll sydd yn newid y rhan helaeth o'ch meddyliau. Cancr y meddwl.
 
Pryderus ydw i mewn gwirionedd. Nid wyf o bell ffordd yn ffyddiog yr aiff hithau i mewn i iselder. Mae hi'n gryfach na fi mae'n debyg. Neu, fel dywedodd cyn athro wedi ymddeol wrthyf fi, mae'n rhaid i chdi fod yn gwybod beth ydy addysgu disgyblion yn feunyddiol cyn gwybod yn union sut mae'r iselder yma'n dod yn ei flaen, ac mae o'n llygaid ei le. Nid ceisio ei chadw allan o'm myfyrdodau i ydw i. Ceisio ei hamddiffyn hi ydw i mewn gwirionedd. Ei chadw rhag y malais yr wyf yn teimlo dros fy hun. A dyna yw'r gwirionedd. Ta waeth beth mae neb yn ei ddweud, y fi sydd wedi methu. Y fi sydd wedi cael salwch wrth geisio addysgu dysgwyr. Y fi sydd wedi cael fy rhoi ar feddyginiaeth o'r herwydd. Y fi sydd eisiau chwythu. Ond, gan ein bod ni'n un, credaf yn gryf ei bod hithau hefyd yn teimlo fel chwythu a dyna yw fy mhryder fwyaf. Mae hi wedi gwneud! Dros gyfnod yr ŵyl Gristnogol sydd yn gwneud tomen o arian i bobl gyfoethog a gwneud y tlawd yn dlotach, chwythodd ei phlwg ar nos Wener cyn i'r ysgol gau. Nid oeddwn erioed wedi ei gweld hi fel yna o'r blaen. Rhegi. Gweiddi. Crio. Cellweirio. Roedd honno'n noson drist ac yn noson a fyddai'n aros yn fy mhen i dra byddaf fyw.

Ers hynny, mae hi wedi bod yn well o lawer. Credaf i'r chwythiad hynny helpu arni. Cafodd hi'r llwyfan a'r hyder i wagio ei meddwl o ddrwg deimladau. Ond, mae'n beryg bellach bod mwy wedi ymgasglu yno. Amser a ddengys - medd pwy sgwn i? Gormod o amser yw'r broblem weithiau. Neu ddim digon ohono hefyd.
 
Mae pethau llawer iawn gwell rhyngon ni erbyn hyn ac mae hi'n gwenu. Yr wyf innau hefyd ond efallai iddo fod yn wên ffals ar brydiau. Gwên sydd yn rhaid ei ddangos er mwyn tawelu meddwl eraill. Gwên sydd ddim yn efelychu dy wir deimladau o gwbl. Ond, mae hi, o bawb yr adwaenai ar y byd hwn, yn haeddu'r wên honno yn fwy na neb na dim. Ac mae o'n helpu os caf fod yn onest. Mae o fel smocio sigarét. Mater o arfer. Habit. Ac fel yna mae'r wên, yn dod i'ch wyneb yn awtomatig (y Gymraeg da yn parhau).
 
Felly, i ateb Rôl fy Narpar Wraig yn y cyd-destun hwn, cefnogaeth - dyna'r gair allweddol. A hwnnw, dydw i ddim yn fyr ohono. Felly, mae fy nghymar yn seren. Yn eneth sydd â'i phen wedi ei sgriwio yn galed ar ei hysgwyddau. Rhaid i mi grybwyll hefyd nad fuaswn i yn derbyn ei chefnogaeth hi oni bai ei bod hi'n derbyn cefnogaeth gan ei theulu hi. Maen nhw i gyd yn arbennig o dda efo fi. Ni allaf ofyn am deulu yng nghyfraith well o unrhyw le. A hynny oll, cyn i ni hyd yn oed meddwl am briodas.
 
Heno, y byddaf yn rhannu coffi gydag un om cyd-weithiwyr o'r ysgol y dechreuais fy ngyrfa. Y swydd gyntaf a gefais. Bob nos Fercher yr ydym yn cwrdd ers i mi fod i ffwrdd o fy ngwaith. Cael rhannu fy meddyliau a fy nheimladau gyda rhywun sydd yn deall. Dim ond am rhyw hanner awr. Ond, bob wythnos y byddaf yn edrych ymlaen tuag ato. Mae o wedi ymadael â'r ysgol honno hefyd gyda llaw.
 
Yfory y byddaf yn cael yr apwyntiad gyntaf o nifer am wn i gyda'r Occupational Health. Teimladau cymysg a dweud y lleiaf. Edrych ymlaen cael mynd yno er mwyn i'r ysgol cael rhyw fath o adborth am fy nghynnydd i. Hefyd, cael dod i benderfyniad be all yr ysgol ei wneud i sicrhau fy mod yn medru gwneud fy swydd. Efallai y byddaf yn fy ôl yn gynt na'r disgwyl! Neu, efallai mai syrthio'n galetach fydd fy nhynged. I lawr i'r gwyll a'r wawr ar goll yn y gofod! Ac un diwrnod, cewch weld fy ngeiriau eneiniog, a borthwyd ar boen a distawrwydd yn dyfod yn esmwyth at blant ein brodyr gan chwilio am eu calonnau. Ni wyddom pa fath yfory a ddaw i ni ond fe awn ymlaen er mwyn diogelu atsain o lais callineb a chreu atgofion am yr haul ac am laswellt llwyd y bryniau. (Diolch Miss!)
 
Pob hwyl,
 
My-Fi

No comments:

Post a Comment