Thursday 5 May 2016

Ddiffyg Hyder - sgwar 1!

Prynhawn da Gymru Fach,

Nid oeddwn yn llwyddiannus. Ni chefais gynnig fy swydd fy hun. Ers hynny, dw i'n sâl. Dydw i ddim wrth fy ngwaith. Mae pryderon mawr yn codi oddi mewn i mi ac yn gwneud i mi deimlo'n fethiant hyd yn oed fwy byth y tro hwn. Teimlad nad wyf yn ddigon da i'r ysgol hon. Teimlo fel nad ddylwn wedi rhoi fy hun yn y sefyllfa o gwbl. Roedd y dysgwyr i gyd yn gobeithio y byddwn yn ennill fy swydd yn barhaol. Ond, na. Nid wyf yn ddigon da i'r ysgol. Felly, sut mae cyfleu hynny i'r dysgwyr sydd am holi os cefais fy nghyflogi? Gallaf ddeud nad wyf yn ddigon da i'r ysgol? Na, dydi hynny ddim yn opsiwn hyd y gwelaf fi. Gallaf ddweud wrthynt bod yr ysgol wedi gwneud penderfyniad ac wedi cyflogi rhywun gwell i'w haddysgu? Gallaf mae'n debyg. Ond, nid dyna sy'n fy nghadw o fy ngwaith hyd y gwelaf.

Nid wyf wedi bod yno ers y cyfweliad. Wedi bod yn sal felly ers dros wythnos. Wythnos gyfan a dau ddiwrnod i fod yn hollol gywir! Pam? Dyna;r cwestiwn! Ceisiaf fy ngorau i ateb y cwestiwn mor llawn ag y medraf a cheisiaf hefyd i beidio a'ch diflasu chi wrth ei ateb hefyd.

Teimladau o fod yn fethiant! Dyna'r ateb mewn gwirionedd ond credaf yn wir bod llawer mwy iddi na hynny. Heb os nac oni bai yr wyf wedi methu i fod yn rhan o'r ysgol fendigedig yr wyf yn dotio arni. Wedi methu wrth gyflwyno gwers fel rhan o'r breoses cyfweld. Wedi methu yn y cyfweliad ei hun hefyd. Ac, o ystyried fy nheimladau blaenorol wrth i mi fynd i ffwrdd yn sal, dyna'r union yr un peth sydd wedi a digwydd, yr wyf wedi colli fy hunan hyder. O ganlyniad i golli'r hyder hwnnw sydd wedi bod yn gryf ynof erioed, yr wyf wedi mynd yn sal. Does gen i ddim syniad chwaith sut i rhwystro'r llioedd o ddagrau sydd yn gwlychu fy wyneb wrth i mi geisio mynd i fy ngwaith. Hynny yw, yr wyf wedi ceisio mynd bob bore.

Ddydd Llun diwethaf, codais yn gynner fel yr arfer. Ymolchias a gwneud fy ngwallt fel a wnaf bob bore. Yna, gwisgais amdanaf a chsglu fy mhethau. Gafaelais yn allweddi fy nghar a mynd iddo. Arhosais yn fy unfan a theimlais fy nghorff y dechrau anesmwytho. Yn dechrau crynu gan ddechrau efo fy nwylo cyn teithio i fyny fy mreichiau ac ymhen dim, roedd fy nhorff i gyd yn teimlo fel ei fod yn crynu. Ofn. Dyna'r gair allweddol y tybiaf. Ofn o beth Duw yn unig a wyr. Does dim byd yn yr ysgol sydd i fod i godi ofn arna i nag unrhyw aelod arall o'i staff. Ond, dim ond y gair ofn sydd gennyf ar eich cyfer.

Ddydd Mawrth, mi wnes yn union yr un peth wrth godi o fy ngwely am mynd i'r car. Ond, roedd pethau'n teimlo llawer gwell y tro hwn. Taniais y car a gyrru i ffwrdd o fy nghartref. Cyrhaeddai y garej a rhoddais lymaid iddo. Eisteddais yn ol yn y sêt fawr yn awdurdodol a daeth y teimladau erchyll unwaith eto. Ond, roedd y teimladau'n waeth gan fy mod y tro hwn yn teimlo fy stumog yn troi ac yn marw eisiau chwydu. Roedd yn rhaid i mi ddanfon fy hun adref ac felly y bu.

Doeddwn ddim am adael i'r un peth ddigwydd i mi eto o ran fod i ffwrdd o fy ngwaith am gyfnod hir. Felly, fore ddydd Mercher, gwnes yr un peth. Mentrais. Roeddwn yn teimlo'n gryf iawn a danfonais fy nghar tuag at yr ysgol. Roedd Radio Cymru yn fy nghadw i rhag meddwl am y lle na'r ofn. Nes i mi weld yr ysgol ar y gorwel. Wedi ei gweld hi, wedi ei theimlo hi, roedd yn rhaid i mi symud fy nghar i gyfeiriad arall. A felly yr oedd hi, arhosais mewn maes parcio a galw'r ysgol i ddweud ble yr oeddwn i arni ac roedd yn rhaid ymddieuro nad oeddwn wedi galw cyn hynny yn unol a pholisi absenoldeb yr ysgol. Gofynnodd y Rheolwraig Busnes yn garedig os oeddwn am iddi ddod atof fi i weld os oeddwn yn iawn. Yna, danfonais fy hun am adref. Ni chefais groeso yno ychwaith. Rhywrai sydd yn fod i fy adnabod i'n iawn methu deall pam yr oeddwn yn gwneud lol! Dyna beth a elwir yn gefnogaeth!

Ta waeth, mae rhywrai eraill yn poeni'n arw am fy sefyllfa hefyd.

Gweithio'n galed

Mor braf yw gweithio'n galed. Eich chwys a'ch llafur yn golygu rhywbeth ac yn ychwanegu at fywydau'n feunyddiol. Rhoi gwybodaeth. Rhoi'r rhyddid i bobl ifanc ddarganfod y wybodaeth eu hunain. Eu haddysgu i gymhwyso'r wybodaeth hwnnw. Ychwanegu eu barn ato. Ei gyfoethogi'n greadigol. Dyna fyd addysg drwyddi draw erbyn hyn.

Mae ymhell dros flwyddyn ers i mi flogio ar y we. Teimlaf braidd yn anniddyg dros hynny. Digon parod yr oeddwn i rannu fy nheimladau dwys i'r byd ond unwaith y diflannodd y teimladau hynny, diflannu a wnaeth yr ysfa a'r ysgogiad i ysgrifennu fy nheimladau a gwagio'r meddwl.

Ta waeth - dyma fi yn fy ol. Ymadewais a'r ysgol bondigrybwyll yr oedd wedi fy ngweud i'n sal yn feddyliol. Cafodd y swydd yr oeddwn ynddi ei hysbysebu fel swydd barhaol. Dim ond blwyddyn oedd fy nghytundeb i a doedd yr athro/athrawes ddim yn bwriadu dod yn ei (h)ol. Fel ffwl gwirion, heb feddwl yn ddigon caled, ymgeisiais amdani. Roeddwn wedi gwella ac yn ol wrth fy ngwaith. Roedd cryn dipyn wedi ymgeisio - cefais gyfweliad ond ni chefais ei chynnig.

Roedd hynny'n ddigon. Er i mi fod yn boblogaidd gyda'r dysgwyr. Gwneud yn dda o ran addysgu a'r dysgu. Yn arbenigo yn y pwnc - rhoddwyd y swydd i eneth ifanc dlos. Nid bod hynny wedi gwneud gwahaniaeth, ond roedd hi wedi serennu a finnau heb. Torrodd fy nghalon i yn hynny o beth. Roeddwn yn deall yr ysgol. Roeddwn yn gwybod beth oeddynt yn chwilota madano o fewn gwers gyfweld a dyma fi'n ei chyflwyno. Gwers eithaf da oedd hi ond y gallwn fod wedi gwneud yn well.

Pryn bynnag - ni chefais y swydd a hynny wedyn yn fy nhaflu i mewn i ryw gwmwl tywyll du ble roeddwn wedi cychwyn rhai fisoedd yng nghynt. Nid oeddwn eisiau bod mewn sefydliad nad oeddwn yn digon da i aros ynddi'n barhaol er mai'r sefydliad oedd ar fai am achosi salwch arnaf. Felly, tyfais geilliau anferth a phenderfynais ymadael. Daeth swydd i fyny ar y we mewn ysgol Gymraeg - yn addysgu fy mhwnc a phwnc arall y byddai rhaid i mi ei astudio cyn cychwyn. Wyth o bobl wedi ymgeisio. Cyflwelwyd tri. Ond my-fi oedd wedi serennu a chefais ei chynnig.

Y problem oedd, roedd y swydd yn cychwyn ar ddiwedd mis Mawrth a finna ar gytundeb tan ddiwedd Gorffennaf ac yn parhau i weithio fy hun yn ol yn araf bach i'r swydd.

Cefais gefnogaeth o bob cyfeiriad yn yr ysgol a wnaeth i mi fynd yn sal wedi fy nychwelyd nes iddynt ddatgelu nad oeddwn am cael aros yn barhaol. Ond, es yno wedi i mi gael cynnig y swydd yn yr ysgol Gymraeg a dywedais yn union beth oedd fy nheimladau.

Dywedodd y Prifathro nad oedd hawl gen i i ymddiswyddo. Roedd cytundeb cyfreithiol gennyf tan yr unfedarddeg ar hugain o Awst ac nid oedd modd i mi 'ymddiswyddo'.

Serch hynny, roeddwn wedi cysylltu a fy Undeb. Felly traethais geiriau'r Undeb iddo.

"Byddai'n well i ti, i'r ysgol a'i ddisgyblion i ti ymadael. Bydd rhaid iddynt gofio mai nhw oedd ar fai am dy salwch."

Roedd hyn oddeutu 9 o'r gloch y bore. Erbyn hanner dydd, roeddwn yn cael fy nhywys o'r ysgol fel carcharor. Cefais amser i ffarwelio ag ambell i aelod o staff a dyna fi, wedi fy rhyddhau o bleser salwch meddwl.

Wythnos yn ddiweddarach roedd y Nyrs Iechyd Meddwl a finnau'n gytun, dylwn cymryd y camau i ddod oddi wrth y meddyginiaeth gwrth iselder. Un yn lle dwy. Hanner yn lle un. Dim. Dim ond atgofion chwerw.

Daeth yr amser i ddechrau mewn ysgol Gymraeg gwledig. Booom!! Daeth y cyfnod mamolaeth i ben a chymrais gyfnod arall wedyn i addysgu pynciau nad wyddwn ddim amdanynt ond nid oeddwn ar frys i adael yr ysgol fendigedig hon. Ysgol ble roedd unigloion yn bwysig. Ysgol a roddwyd y gefnogaeth i'w staff. Ysgol a ddisgynais mewn cariad a hi.

Er i'r disgyblion a'u teuluoedd fy adnabod ar lefel bersonol, roedd gwneud fy ngwaith yn hawdd yno a thorrais fy nghalon yn ymadael a hi mewn gwirionedd. On ta waeth, fel yna y mae hi.

Ar hyn o bryd yr wyf yn yr ail fis mewn ysgol arall. Ysgol ddwyieithog ond ysgol hyfryd. Yr Uwch Dim yn glen. Rheolwyr canol yn gefnogol dros ben. Disgyblion yn arbennig.

Mae'n hawdd cael gwared o iselder yn fy marn i. Y peth pwysicaf yw mynd at graidd y broblem sy'n bodoli ynoch. Yn fy achos i, yr ysgol oedd y broblem. Unwaith y diddymais honno o fy mywyd, aeth y cwmwl du gyda hi. Dechrauffres. Da'dibywyd. Tatauffern.

Serch hyn oll, yr wyf yn ystyried ymadael a byd addysg yn gyfan gwbl bellach. Mae mwy i fywyd na marcio gwaith tan oriau man y bore. Codi wedyn, a hithau yn parhau i fod yn oriau man y bore, i gynllunio gwersi. Bod yn yr ysgol awr ne ddwy cyn ei chychwyn er mwyn cael adnoddau yn barod. Gweithio drwy'r amser cinio gyda chlybiau allgyrsiol. Meddwl am Eisteddfod yr Urdd a'r cystadlaethau. Eisiau gwneud rhywbeth cyffrous neu rhamantaidd gyda'ch cymar - methu'n llwyr a meddwl am hynny. Gwaithyngalw. Bobffycindydd.

Y neges bwysicaf fan hyn yw nad y gwaith yng nglwm a'r ysgol yr oeddwn ynddi a wnaeth i mi'n sal. Mae'r gwaith yn debyg ym mhobman. Mae'n swmpus. Yn ormod i un person. Mae'n rhaid i ysgolion sicrhau eu bod yn cynorthwyo eu staff. Mae dros hanner ohonom ni, athrawon y genhedlaeth newydd yma yng Nghymru, yn wir ystyried ymadael a'r proffesiw. My-fi - my-fi fydd y cyntaf i adael y tybiaf.

Hwyl am y tro,

My-Fi

Tuesday 18 March 2014

Yn ol wrth fy ngwaith!!

Annwyl Gyfeillion Annwyl,
 
Mae hi wedi bod yn sbel o amser ers i mi eich diweddaru chi â fy nghynnydd. Roeddwn yn teimlo'n eithaf euog heno wrth feddwl amdanoch chi gyd ble bynnag yr ydych chi! Os, ydych chi yno'n gwrnado hynny yw!!
 
Yn gyntaf, mi fwynheais i fy nhrip i wlad bell boeth yn fawr iawn! Gweithiodd y toriad yn uniongyrchol a fy mwriadau i gryfhau'n feddyliol. Doedd dim pryder gennyf yn y maes awyr nag wrth weld y dorf fwyaf o bobl yr wyf wedi eu hwynebu ers cryn dipyn o amser. Serch hynny, yr oedd hi'n un o'r amseroedd distawaf a gaed mewn maes awyr. Ond, yn fy nhyb i a fy mywyd arferol, roedd hi'n orlawn o bobl.
 
Pan gyrhaeddais i wedyn, i'r man ble roeddwn am dreulio f'amser, braf oedd dweud bod hi'n eithaf prysur yno hefyd. I ateb cwestiwn y rhan helaeth ohonoch, do, mi yfais ddigonedd o gwrw yno. Dim yn agos i'r faint y byddwn yn arfer ei yfed ar wyliau ond mi fwynheais i'n arw. Serch hynny, roedd teimladau afiach ynof am rhai dyddiau cyn i mi fynd. Teimladau a oedd yn codi salwch arnaf. Teimladau a oedd yn fy anesmwytho er gwaetha’i hymdrechion i dawelu fy meddwl. Ia, teimladau llawn o euogrwydd llwyr oeddynt. Euogrwydd am fynd, a phobl yn gorfod gweithio yn fy lle i yn bodoli ynof ond tuag at fy nghymar annwyl oedd yr euogrwydd mwyaf. Ni af eto fy hun ar daith. Nid oherwydd y teimlad o unigrwydd, doedd hynny'n poeni dim arnaf a dweud y gwir, euogrwydd yn unig y bachodd fy meddylfryd. Serch hynny oll, cefais amser da.
 
Pan ddeffrais fore ddydd Mawrth a'r haul poeth yn llosgi popeth a oedd yn ei ffordd, ffoniais yr ysgol hyfryd yr wyf yn rhan ohoni. Traethais iddynt fy mod yn llawer iawn cryfach a byddaf yn fy ôl y dydd Llun canlynol. Roeddwn yn yr haul. Roeddwn yn mynd yn ôl i fy ngwaith. Roeddwn i mor hapus.
 
Ac felly y bu, cefais e-bost yn cadarnhau fy nychwelyd ac roeddwn i fod i gyrraedd yr ysgol erbyn hanner wedi naw fore ddydd Llun i gyfarfod swyddog o'r adran staffio ac yna'r Prifathro. Roedd popeth ar ei fyny.
 
Doedd y teimladau oddi fewn i mi ddim yn rhy hapus pan oeddwn yn barod i ddychwelyd adref. Wrth aros am gludiant i'r maes awyr di-gymraeg cefais oriau i mi fy hun. Cerddais am yr oriau hynny ar hyd y traeth, o un pen i'r pen arall ac yna'n ôl. Bendigedig! Dyna beth a elwir yn olygfa! Er bod gennym Barciau Cenedlaethol arbennig yma yng Nghymru, does dim gwell na cherdded ar draeth gwyn a choch a'r haul yn gymar i chi'r holl ffordd. Fyntau a chwithau a'ch myfyrdodau. Gallwch chi wneud un rhywbeth efo'ch meddwl gyda'r haul, y gwres, y tywod, y môr yn sisial i'r ochr ohonoch a'r sŵn yn llenwi'ch byd. Sŵn a ellir ond ei alw'n heddwch llwyr. Alaw'r tonnau'n dawnsio’n ffyrnig a phawb yn ei werthfawrogi. Lliwiau'r haf yn fôr gwahanol o liw o'ch cwmpas chi a phawb o'r merched yn brwydro i edrych eu gorau a'r dynion yn eu gwerthfawrogi'n llwyr. Y merched yn gwerthfawrogi'r dynion wrth wenu'n braf a cherdded heb bryder yn y byd. Doeddynt ddim yn gwerthfawrogi, doedd dim ots gan neb bwy a oedd yn edrych arnynt. Oni bai am yr ychydig o'r Werin bobl y wlad a oedd yn dueddol o fod yn haws eu gweld. Y nhw oedd y rhai a oedd yn gwisgo'r trysysau hirion a siwmper. Siwmper go denau rhaid cyfaddef ond siwper yr un modd. Roedd hi'n hyfryd o ddiwrnod, y gorau a welais ers fy ngwyliau cynt. Rhyfedd o fyd. Ond, roedd o'n wirioneddol hyfryd pa bynnag lle'r oedd eich llygaid yn edrych. Doedd dim ots beth roeddynt yn ei weld, roedd popeth mor ysblennydd! Harddwch naturiol a wnaed gan ddyn! (Peidiwch â gofyn) Hyfryd! Dimbydgwell. Dimffasiwnbethagormod. Wrthfymodd.
 
Wrth i mi yrru am yr ysgol, des i stop! Roedd y bore dydd Llun hwnnw'n llawer iawn gwahanol i foreau a ddeffrais mewn gwlad arall. Roedd y dydd Llun hwnnw'n wahanol i'r teimladau yr oeddwn wedi cael wrth ysu i fynd yn fy ôl. Roeddwn yn crio ac yn chwydu a chyfogi dim byd. Y bore dydd Llun hwnnw, unwaith i mi gau drws fy nghartref a thanio'r car, roeddwn yn crynu fel ci'n cachu! Roeddwn yn cofio am y sgwrs a gefais efo ffrind o f'ysgol flaenorol. Roeddwn yn wirioneddol sâl unwaith eto.
 
Ceisiais fy ngorau glas i roi'r gorau iddi. Ceisio fy ngorau i daflu'r teimladau hyll o'r neilltu ond crynais fwyfwy wrth ymgeisio. Nid oeddwn yn fy nghar fy hun gan fod rhywbeth yn bod arno ar y pryd a doedd hynny ddim yn helpu. Er i mi yrru'r car benthyg yn eithaf aml, nid oeddwn yn oll gyfforddus ynddo a doedd yr amser hwnnw ddim yn gyfleus i gael y teimlad yna. Doedd dim amser gwaeth os caf fod yn onest. Gyfeillion, yn gwbl ddiffuant, roeddwn yn cachu brics!
 
Cyrhaeddais yn agos iddi a dechreuais ei gweld hi ar y gorwel. Golygfa fendigedig - ceisiais feddwl a methu! Roedd yn rhaid i mi barcio am eiliad. Disgynnodd y dagrau. Disgynnwyd yn ddiseremoni i lawr fy wyneb a fy llaw yn crynu wrth i mi geisio a thanio mwgyn. Ond, rhwng pob tyniad ar y sigarét, arafodd f'anadlu. Peidio a wnaeth y dagrau. Sythu gwnaeth fy wyneb. Yn gryfach yr es.
 
Taniais y car ac es yno! Cerddais a fy mhen yn uchel i mewn i'r sefydliad ac i aros tu allan i swyddfa'r Pennaeth. Daeth y swyddog allan mewn chwinciad a fy ngwahodd i eistedd cyn cynnig paned o goffi i mi. Roedd hynny am helpu! Bron i mi ofyn am flwch llwch ond gwell oedd peidio.
Rhoddwyd cynlluniau mewn grym i fy nghynorthwyo yn ôl i'm cyfrifoldebau'n llawn! Rhoddwyd cynnig i mi newid mentor ac yna ciciais fy hun am y ffordd y mae'r oll beth wedi cael ei bortreadu. Doedd dim angen newid neb arna i!! My-Fi fy hun yn unig oedd ar fai am f'absenoldeb. Y salwch oedd y prif reswm wrth gwrs ond ni ddylwn wedi parhau i wthio a gwthio nes nad oeddwn yn medru cymryd dim mwy ac achosi salwch afiach. Brwydro yn erbyn fy hun yr oeddwn mewn gwirionedd. Doedd dim synnwyr mewn gweithio drwy'r nos. Does dim synnwyr mewn colli cysylltiad â normalrwydd. Mae'n rhaid i ni beidio â gwneud hynny. Roedd digonedd o adnoddau ar fy nghyfer i'w defnyddio wrth i mi addysgu. Roeddwn yn treulio oriau ar ben oriau yn cynhyrchu adnoddau fy hun heb angen. My-Fi a benderfynodd greu rhai fy hun. Roedd drws pob un o'm cyd-weithiwr ar agor ac nid yn unig yn yr adran a'r gyfadran ychwaith! Ar draws y ffin roedd digonedd o gymorth. Ond, na, roeddwn eisiau serennu. Roeddwn eisiau fod ar y brig. Eisiau gwthio fy hun a dod o hyd i atebion i fy mhroblemau ar fy mhen fy hun. Does neb yn medru fy helpu, fy mhroblemau innau ydyn nhw! - meddyliais. Mae gan eraill ddigonedd ar eu plât - meddyliais.
 
Ceisiais i ddweud fy mod yn colli cwsg dros gynnydd rhai o'r dysgwyr yn fy ngofal unwaith. Cefais gyngor ar sut i barhau ond doedd y cyngor ddim yn gweithio wrth i mi geisio ei weithredu. Dylwn i fod wedi parhau i ddweud bod y broblem yno o hyd ond methais a gwneud hynny. Mi ddywedais wedyn, y tu allan i'r adran, fy mod yn teimlo'n fethiant llwyr (dros e-bost y tro hwn), cefais ddarlith a dweud nad dyna'r achos ond parhau a gwaethygu a wnaeth y teimladau hynny! Ond, dylwn fod wedi parhau i ddweud hefyd! Byddai'r ysgol hyfryd hon yn gwneud un rhywbeth i gynorthwyo unrhyw un o'i staff. Mae'n biti ar y naw nad es ati i chwilota am help o fy nghwmpas. Ond doedd gen i ddim hyder, a dyna ni. Digon haws dweud pethau rŵan a minnau wedi dechrau ailafael ynddi'n araf bach. Mi wnaf y munud y daw un rhywbeth. Pan fydd cwestiwn yn codi, bydd fy llais yn ei ddilyn yn syth o hyn allan.
 
Roedd hi'n hyfryd gweld wynebau'r myfyrwyr pan es i chwilota amdanynt yn eu gwers Mathemateg fore ddydd Llun. Cefais y rhyddid i fynd adref yn dilyn ein cyfarfod ond penderfynais fynd i chwilota am fy nosbarth cofrestru a dangos fy wyneb, tarwyd ar eu gwers gan fy mhresenoldeb a hynny yn fy ngwefreiddio mewn gwirionedd. Yna, es i wynebu fy nghydweithwyr agosaf, yn yr adran hyfryd o athrawon caredig gweithgar. Ffrindiau a wnaed un rhywbeth i unrhyw un sydd yn gweithio a nhw. Er i mi deimlo'n ffŵl am eu gadael heb roi'r cynnig iddynt fy helpu, unwaith eto, digon haws dweud hynny mewn hiynsight dydi? A dyna ni, trannoeth yr oeddwn yn fy ôl mewn ystafell ddosbarth yn addysgu. Am y bythefnos hynny cyn hanner tymor, yr oeddwn yn gadael yr ysgol yn dilyn y 3ydd wers. Roeddwn yn cryfhau bob diwrnod a hynny'n rhoi gwefr i mi. Gwefr am fy mod yn ddigon cryf i wynebu'r salwch a'i daro ar ei ben.

Wedyn, daeth hanner tymor. Hoe fach. Hunan fyfyrio a hunan werthuso'r bythefnos ddiwethaf. Braf oedd cael yr hoe ond daeth anffawd. Cyn yr hanner tymor mewn gwirionedd daeth y cwmwl du hwnnw dros ein teulu ni. Cwmwl du a ddaeth a galar efo fo. Roedd gennyf feddwl y byd ohoni, y ddynes a fu farw. Felly, ar y seithfed ar hugain o Chwefror, collais ddynes a oedd yn agos iawn i fy nghalon. Dynes a rhoddodd bopeth a oedd ganddi i'n teulu ni. Dynes yr oeddwn yn ei galw'n mam er mai ei chwaer hi oedd hi. Collais fy nhad yn ifanc iawn a rhoddodd y ddynes yma ei henaid i ni fel teulu. Buasai fy mam byth wedi dygymod a'r ffaith bod fy nhad wedi mynd a'i gadael gyda 4 o blant bychain oni bai am ei chwaer (marw ddaru'r creadur - nid gadael). Roeddwn bellach ar goll unwaith eto. Penderfynais fynd i'r ysbyty i weld corff y ddynes a oedd yn fam i mi. Roedd yr olygfa yn erchyll ac yn bersonol iawn ond ni chriais cymaint yn fy mywyd o'r blaen. Roeddwn yn sgrechian dros y lle.

Y diwrnod wedyn yr oeddwn i fod i addysgu fy nosbarthiadau i gyd am y tro cyntaf ers fy nychwelyd. Ac, dwnim sut, ond mi wnes i o. Es i'r ysgol a thorri fy nghalon yr holl ffordd ond aeth y gwersi'n dda iawn a chefais roi fy mhryd ar rywbeth arall a gadael i'r galar fod. Gweithiodd i'r dim a dyna ni.

Roedd hanner tymor wedyn yn anodd iawn gan ein bod ni fel teulu yn ymgynnull yn nhŷ fy nain yn feunyddiol. Cyrhaeddodd y diwrnod claddu ar ddiwedd yr wythnos. A dyna ni, y mae hi wedi mynd. Yn gorffwys.

Yn dilyn yr angladd es ar gwrs efo fy Undeb. Cwrs a oedd am fy ngwneud yn athro gwell. Roedd hi'n gwrs dau ddiwrnod a mwynheais yn arw a dysgais i lwyth!
Yng nghanol yr wythnos hefyd, derbyniais lythyr gan yr ysgol yn fy ngwahodd i i gyfweliad. Cyfweliad am y swydd yr oeddwn yn ei wneud. Cyfweliad i addysgu yn yr ysgol yn barhaol. Cafodd y swydd ei hysbysebu yng nghanol fy absenoldeb i. Yna, pan ddychwelais, ymgeisiais amdani ac edrychaf ymlaen bellach am fy nghyfweliad.

Diolch o galon am ddarllen. Byddaf yn fy ôl yn fuan.

My-Fi
 

Wednesday 29 January 2014

Cyfarfod â'r Prifathro

Ddydd Llun ydoedd pan es i i weld Prifathro'r ysgol yr wyf yn rhan ohoni. Roeddwn yn ei gyfarfod ar dir yr ysgol ac yn ei swyddfa foethus yn ystod y prynhawn. Cyn i mi fynd ati i grynhoi'r sgwrs a gawsom mai'n rhaid i mi roi'r sgwrs yn ei gyd-destun a'r bore cyn i mi gyrraedd oedd sail y cyd-destun hwnnw mewn gwirionedd.
 
Deffrais fore ddydd Llun am oddeutu deg o'r gloch. Cefais gawod ac yn y blaen ac roeddwn wedi gorffen ymolchi a gwisgo amdanaf cyn hanner awr wedi. Roeddwn wedi meddwl beth a ddylwn i wisgo yn union fel y gwnes cyn mynd i weld yr OH ac unwaith eto, fy nillad gorau enillodd yn hynny o beth. Nid oeddwn yn gadael fy nghartref tan tua hanner awr wedi hanner felly roedd gen i dros ddwy awr i fy rhoi fy hun yn y cyflwr seicolegol i fedru ymdopi â'r cyfarfod. Ond, sut ar wyneb y ddaear y mae rhywun yn gwneud hynny? Doedd gen i ddim syniad! Rhoddais iddi gynnig ar ddechrau ysgrifennu blog. Wedi i mi ei orffen a'i brawf ddarllen fel 'tae, dileu'r cwbl a wnes. Doedd dim gair yn gwneud synnwyr a hynny felly yn efelychu sut oedd fy stad meddwl ar fore cyn i mi fynd ar dir yr ysgol am y tro cyntaf ers dros ddau fis! Tir nad oeddwn wedi rhoi fy nhroed arno ers mis Tachwedd. Tir a oedd bellach yn ddiarth i mi. Pobl a oedd ar y tir yn gwybod pwy oeddwn i ond neb yn gwybod o gwbl sut oeddwn i.
 
Roeddwn wedi mynd i deimlo'n sâl, dyna yw'r gwirionedd. Roeddwn yn crynu fel deilen wrth geisio gwneud paned i mi fy hun. Cefais dri fyg o goffi i fod yn hollol gywir. Ni orffennais y trydydd oherwydd roedd y teimlad o salwch wedi trafeilio o fy mhen a fy meddylfryd i lawr at fy stumog. Roedd o'n troi bellach. Roeddwn angen y toiled a dyna ni. Ni af i ymhelaethu ond roeddwn yn sâl. Popeth yn cael ei wagio o fy nghorff ond fy meddylfryd yn dal i fod yn llawn. Popeth a fwytes ddydd Sul wedi mynd yn ddiseremoni heb unrhyw rybudd o gwbl. Cefais gryndod. Cefais deimladau a oedd yn fy siarsio i beidio â mynd. Peidio croesi'r tir. Peidio ag edrych i lygaid pobl dra yr oedden hwythau wrth eu gwaith ac yn disgwyl i mi fod hefyd.
 
Wrth i mi ddanfon fy hun yno, roedd y teimlad o fod yn sâl yn diflannu ohonof. Daeth rhyw wên fach ar fy wyneb ac roeddwn yn teimlo fy nghorff yn syrthio i mewn i'r teimlad mwyaf rhyfedd o fod wedi ymlacio. Ceisiaf fy ngorau glas i wneud y blog yma'n ddifyr i chi ond credaf i mi fethu'n llwyr ar yr achlysur hwn. Does dim ffordd i mi ddweud dim yn greadigol gan nad wyf eisiau ehangu unrhyw ran o'r stori gan fy mod yn teimlo mai hon yw'r stori bwysicaf ohonynt i gyd. Y cam fwyaf tuag at normalrwydd eto. Parhau gwnaeth y wên. Parhau nes i mi weld yr ysgol ar y gorwel. Gweld ei harddwch naturiol modern a chyfoes hi yn y pellter. Pellter a oedd yn agosáu fwyfwy bob tro ar yr olwyn. Teimlais fy nhroed dde yn dechrau anesmwytho ac ymlacio'r un pryd a'r car yn dechrau arafu. Fy nghorff yn dechrau crynu eto. Fy nagrau ar fin cychwyn. Y wên wedi diflannu a fy ngwefusau wedi cau'n dyn er mwyn ceisio rhwystro'r lli. Roedd gennyf chwarter awr cyn y cyfarfod felly mi es i rywle am fwgyn. Cefais ddau a rheiny'n rhoi hwb i mi danio'r car unwaith eto a'i ddanfon i dir yr ysgol.
 
Wrth i mi gyrraedd gwelais y ceir hardd lliwgar a oedd fel sardinau wedi parcio'n flêr. Pob un o'r ceir bron a bod yn  ddiarth ond eto'n gyfarwydd. Er i mi grynu, er i mi fod yn swp sâl, er i mi fod eisiau tanio a mynd, cerddais yn urddasol, yn awdurdodol ac yn gyflym tuag at y brif fynedfa. Defnyddiais fy allwedd i ennill y mynediad a cherddais tuag at swyddfa'r Pennaeth heb edrych ar, na rhannu gair, â neb!
 
Roedd ei ddrws ar agor felly edrychais i mewn. Doedd o ddim yno. Eisteddais ar gadair y tu allan i'w 'stafell a rhoddais fy mhen i lawr. Doedd o ddim munud yn cyrraedd. Yn llawn awdurdod rhoddodd ei law allan ac ysgwyd fy llaw i'n feddal iawn. Fel ei fod yn credu fy mod yn fregus. Gwahoddodd ef i mi eistedd ar gadair yn ei swyddfa clud a rhoddodd i mi elfen o sioc. Disgwyl yr oeddwn iddo eistedd gyferbyn â mi yn ei gadair fawr awdurdodol. Na, wrth fy ochor i yr eisteddodd o, ar yr un lefel â fi mewn gwirionedd. Dechreuodd i siarad mewn llais a oedd eto'n feddal. Cwestiwn bach oedd o - sut wyt ti erbyn hyn? Serch hynny, roedd o'n ddigon. Digon i mi, unwaith eto, torri fy nghalon wrth draethu fy stori.
 
Fesul gair, rhwng dagrau, roedd y boen yn lleddfu a'r dagrau'n arafu. Dywedodd ei fod o, fel y Pennaeth ac nid yn bersonol, yn derbyn peth helaeth o'r cyfrifoldeb dros fy salwch!! Roeddwn wedi fy synnu! Dywedodd hefyd y byddai unrhyw athro sy'n llawn profiad wedi methu addysgu'r dosbarthiadau y roeddwn i wedi cael fy rhoi i'w haddysgu heb sôn am athro newydd fel fi.
 
Roeddwn bellach yn teimlo ar ben fy nigon. Roedd popeth yr oeddwn wedi credu o'r cychwyn yn wir. Y dosbarthiadau oedd ar fai ac nid fi! Wrth ddarllen y frawddeg olaf 'na. Dydy o dal ddim yn gwneud synnwyr i mi. Roedd yn rhaid i rywun fod ar fai. Doedd o ddim am dderbyn y cyfrifoldeb yn bersonol ond roedd o'n gweld nad fy mai i oedd y ffaith fy mod yn sâl. Pwy oedd ar fai felly? Unigolyn? Oes ganddo fo neu hi enw? Mawr oedd y gobaith o gael clywed yr enw ond ni chefais. Doedd dim enw. Dim ond digwyddiadau. Serch hynny, roeddynt yn ddigwyddiadau nad ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf. Roedd digonedd o bethau y medra wedi osgoi'r salwch hwn. Salwch sydd bellach yn fai ar rywun arall, a hynny'n swyddogol o geg y Prifathro.
 
Serch fod y bai hwnnw wedi ei ddifyrru oddi wrthyf fi. Nis credaf o gwbl fod y bai ychwaith ar ben unrhyw berson arall. Camgymeriad ar ei r(h)an o/hi sy'n fwy tebyg na'r bai. Cyfuniad wedyn o'r camgymeriad hwnnw a fy nghamgymeriadau innau. Hynny yw, ymddiheurais wrth y Pennaeth am beidio manteisio ar ei bolisi drws agored. Ymddiheurais am beidio gofyn am fwy o gymorth gan yr adran a phobl eraill y gallwn fod wedi gofyn iddynt. Ymddiheurais am fy absenoldeb. Gwrthododd i gymryd yr ymddiheuriad hwnnw. Yntau wedyn crybwyllodd y bod gennyf bapur meddyg yn fy rhoi yn sâl o fy ngwaith tan y 3ydd o Fawrth. Dywedodd hefyd bod gen i'r hawl berffaith i beidio â dychwelyd tan y diwrnod hwnnw. Ond, roedd y ddau ohonom yn gytûn. Mawr well ydoedd i mi ddychwelyd cyn y gwyliau hanner tymor. Byddai ef yn sicrhau bod cefnogaeth ar fy nghyfer a byddwn yn gweithio'n araf bach cyn cyrraedd pen y daith a dechrau fod yn athro llawn amser unwaith eto. Braf hefyd oedd clywed bod fy nisgyblion yn holi'n fawr amdanaf! Brafiach fyth oedd clywed bod yr ysgol fy angen i. Angen fy arbenigedd i. Angen fy mhersonoliaeth i. Dyna braf!
 
Beth nesaf felly? - neidio ar awyren wythnos nesaf. Tra byddaf yn gorwedd ar draeth glân a phoeth yn bell oddi wrth bawb a phopeth, dof i benderfyniad. A'r penderfyniad hwnnw yw myned yn fy ôl ddydd Llun y degfed neu'r ddydd Llun canlynol. Amseraddengys. Gormodynberyg. Dimdigonynwaeth. Angenbalans.
 
Mae'n ymddangos i mi felly mai'r blog nesaf fydd yn dilyn fy ngwyliau haeddiannol (yn fy nhyb i fryn bynnag). Gwyliau sydd am fy nghryfhau fwyfwy. Gwyliau a fydd yn sail i ddirwyn myfyrdodau afiach i ben. Gwyliau fydd yn lladd y gorffennol a fy ngwthio'n ôl i normalrwydd. Edrychaf ymlaen.
 
Braf iawn yw teimlo'n fyw unwaith eto. Braf iawn yw cael gafael ar grafangau normalrwydd eto. Braf iawn yw cael gwireddu breuddwydion. Braf iawn.

Os ydych yn gwrando, gadewch neges os gwelwch yn dda.

Os nad ydych eisiau gadael neges ar y blogiau, mae croeso i bob un ohonoch drafod unrhyw ran o'r blogiau hyn drwy e-bost.

Neu, os ydych mewn sefyllfa gyffelyb, ac yn chwilio am atebion, cysylltwch â mi a cheisiaf fy ngorau i fod o gymorth i chi. Ni fyddaf, ar fy llw, byth yn datgelu, ar unrhyw adeg, pwy ydych chi. Gofynnwch unrhyw gwestiwn ac mi atebaf mor onest ag y gallaf.
 
F'e-bost yw, my-fi@outlook.com
 
Y cofion cynhesaf i bawb yng Nghymru,
 
My-Fi
 
 

Saturday 25 January 2014

Gwell, o lawer!!

Caraf ddechrau drwy ddymuno diwrnod Santes Dwynwen hyfryd a chariadus i bawb yng Nghymru Fach. Braf yw cael bod yn Gymro a chael fod yn rhan o'r dathliadau. Dim ond yn fy enaid a fy nghalon a'm meddwl. Ni chefais na cherdyn nag anrheg ond ta waeth am hynny. Parhau a wnaed.
Ar bnawn Sadwrn y pumed ar hugain o Ionawr, eisteddaf ar fy ngwely yn dechrau ysgrifennu'r blog hwn. Mae gennyf lawer i ddweud ac addewid i'w rhoi. Hoffaf ddechrau drwy ddweud fy mod yn teimlo'n llawer iawn gwell ac yn gryfach o lawer. Nid wyf wedi cael teimlad o banig nag aflonyddwch wrth fynd i unman yn ddiweddar. Diflannu mae'r teimladau afiach o dristwch yn llawer cyflymach na'r disgwyl a dweud y gwir. Gwên, a gwên go iawn diffals yw fy ngwên erbyn hyn. Teimlaf yn arbennig o dda amdanaf fy hun ac yn bositif iawn o gael dychwelyd i fy ngwaith. Happydays. Edrychifyny. Yfforddymlaen.

Y newydd da pwysicaf. Yr wyf wedi derbyn gwahoddiad gan yr ysgol yn fy ngwahodd i i gyfarfod â'r Pennaeth ganol wythnos nesaf. Codais y ffôn ar fy union a galw'r ysgol a gofyn am y Pennaeth. Roedd hi'n rhy bell i ffwrdd. Ddoe oedd hynny. Siaradais ag ysgrifenyddes y Gŵr Bonheddig. Yn erbyn awgrymiadau'r Iechyd Galwedigaethol, yr wyf bellach yn mynd i weld fy mos ddydd Llun. Rhoddwyd y cynnig i mi ei gyfarfod yn yr ysgol neu ar leoliad niwtral fel 'tae. Rhoddais fraw i mi fy hun wrth ddewis yr ysgol. Ac fel yna y mae hi.
 
Yn dilyn sgwrs â fy Nyrs Iechyd Meddwl personol, yr wyf am fentro i ddechrau'r "phased return" cyn y gwyliau'r hanner tymor. Dyna beth y byddai'n crybwyll i'r Pennaeth pryn bynnag. Mi fydd fy meddyg wedyn yn ysgrifennu llythyr i ddiddymu'r ddogfen sydd yn dweud nad fyddaf yn barod i ddychwelyd tan y 3ydd o Fawrth. Soniais wrth y nyrs hyfryd am y breuddwydion a gefais. Y traethau poeth hynny yr oedd yn sownd i fy myfyrdodau bob tro. Yr oglau hynny a oedd yn llenwi'r lle tra roeddwn yn unig. Y blas hwnnw sydd ar fy nhafod pan feddyliaf am haul. Blas hyfryd. Roedd hi'n ei weld yn syniad arbennig o dda.
Felly, y trydydd newydd heddiw yw'r ffaith fy mod am wireddu'r breuddwydion hynny ac am neidio ar awyren wythnos nesaf. Wedibwciogwyliau. Gwladpellpoeth. Edrychymlaen. My-Fi fy hun sydd yn mynd. Nid oes gennyf gwmni. Danfonaf fy hun i'r maes awyr. Caf gwmni 'Cestyll yn y Cymylau' gan Mihangel Morgan ar yr awyren. Yr wyf eisiau ei ddarllen ers tro. Yn dilyn y 'brêc', mawr obeithiaf y dof adref yn gryfach fyth. Mawr yw'r gobaith y bydd yn torri arferiad arall o eistedd adref ac yna, wedi rhai dyddiau o ddychwelyd, dechrau yn ôl yn ysgol yr wyf wedi lladd arni gymaint. Yr ysgol a rhoddodd gyfle i mi serennu. Yr ysgol a rhoddodd gyfle i mi ffwl stop. Yr ysgol sydd yn brwydro ac yn brwydro pob dydd i gael y gorau gan eu disgyblion gan eu hymestyn i'r eithaf. Yr ysgol a gaiff yr orau gan ei staff gan eu hymestyn hwythau hefyd. Yr ysgol yr wyf yn falch iawn o gael fod yn rhan ohoni. Yr ysgol yr wyf bellach yn teimlo fel ffŵl am ei gadael hi yn hytrach na defnyddio'i hadnoddau dynol hi fwyfwy. Credaf yn fawr bellach y byddwn wedi derbyn fwy o gefnogaeth os byddwn wedi gofyn amdano'n amlach. Os byddwn wedi chwilota am yr help o fewn y sefydliad yn hytrach na'r tu allan iddi. Mi wnes i ofyn, un neu ddau o weithiau, ar lafar a thrwy e-bost. Mae'r rheiny'n dal i fod gen i felly mae gen i brawf. Serch hynny, ddylwn wedi medru dweud fy nheimladau pan ddaru nhw ddechrau. Ond, dyna fo, dwrdanbont yw hynny bellach. Yr addewid sydd gennyf i'w rhoi i bawb sydd eisiau gwybod. Nid wyf am fwydro pen fy Mhennaeth am yr hyn a fu. Bydd rhaid dweud wrtho sut y teimlais a pham roeddwn i ffwrdd wrth reswm, ond, tuag at y dyfodol y byddaf yn anelu. Yr addewid i bawb felly, ni fyddaf yn edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd mwyach. Ymlaen ac i fyny fydd fy ffocws. Fy nghanolbwynt i gyd ar fy nychwelyd!
 
Ychwanegaf at waelod y blog hwn yn dilyn fy nghyfarfod â'r Pennaeth er mwyn dweud beth a ddigwyddodd ac yn lle ysgrifennu blog o'r newydd. Mi gadwai hynny i rannu rhai o'm hanturiaethau yn fy hoff le yn y byd wedi i mi ddod adref.
 
Fel teulu, bydden ni'n mynychu ddau angladd yr wythnos nesaf. Un ddydd Mawrth ac un ddydd Iau. Bechod!! Pethau hyll ydy angladd hefyd. Fe fûm mewn angladd bore ddoe hefyd. Nid perthynas, dynes yr oeddwn yn ei hadnabod ar lefel gymdeithasol.

Does dim wedi fy mhryderu am y marwolaethau canys dyna yw bywyd. Ei ddiwedd o mi wn, ond yn rhan fawr ohono ac roedd hoedrannau'r sawl yr aeth yn ddiweddar yn eithaf da. Un yn enwedig, ddim yn bell o gant!!! Y ddwy arall? Wel, mae eu poenau nhw bellach wedi'i leddfu. Cânt orffwys mewn heddwch bellach. Byddaf yno i ddathlu eu bywydau hir ac i ffarwelio wrth gwrs.

Mwynhewch weddill eich penwythnos fy nghyfeillion anwylaf.

Gyda'r cofion cynhesaf atoch a'r fendith mwyaf dros eich dydd,

My-Fi

Tuesday 21 January 2014

Adroddiad yr Iechyd Galwedigaethol a Myfyrdodau

Mae hi bellach yn nos Lun yr ugeinfed o Ionawr ac yn hanner awr wedi deg o'r gloch gyda'r nos. Cefais deimlad i wneud rhywbeth. Un rhywbeth. A dyma fi. Yn eistedd ar fy ngwely yn teipio ar fy ngliniadur y tro hwn. Gwelwch felly mae rhannu fy nheimladau yw'r "rhywbeth" hynny yr wyf wedi penderfynu ei wneud. Ond, cyn i mi ddatgelu fy nheimladau presennol, yr wyf am fynd yn fy ôl i'r apwyntiad a gefais efo'r IG.
Dydd Iau oedd yr apwyntiad. Erbyn bore ddydd Sadwrn roedd adroddiad y ledi a welais wedi dod i law! OMG! Soniais o'r blaen ei fod yn bositif ac yna rhoddais yr addewid i rannu darnau ohono gyda'r sawl sy'n gwrando neu'n darllen neu beth bynnag yr ydych fel unigolion yn credu yr ydych yn ei wneud. Gwrando ac yn darllen y byddwn i'n tybio. Ta waeth, dyna ddigon o fy nghellweirio.
Mae'r Cynghorydd Iechyd wedi dweud yn blwmp ac yn blaen wrth yr Awdurdod yr wyf yn gweithio iddi nad wyf yn ddigon da i ddychwelyd i'r gwaith. Mae hi hefyd yn crybwyll mai yn yr ysgol y mae'r salwch sydd arnaf wedi cychwyn a hynny oherwydd bod y gefnogaeth ar fy nghyfer yn gyfyng. Wrth ei ddarllen, tarodd y geiriau arnaf oherwydd roedd cefnogaeth yno. Myfi a ddaru beidio â chwilio amdano oherwydd y pwysau gwaith cynyddol a oedd yn disgyn ar y bobl a ddylwn i fynd i'w gweld. Cylch dieflig arall. Cylch nad wyf bellach yn ei weld. Cylch yr wyf wedi colli cysylltiad ag o ers i mi fynd yn sâl.
Mae popeth arall yn yr adroddiad yr un peth a dweud y gwir pan soniais ar y diwrnod yn dilyn y cyfarfod. Ni allaf fynd yn fy mlaen i drafod unrhyw ddarn arall o'r adroddiad mewn gwirionedd. Ni fyddai hynny yn gymorth i mi wrth feddwl am ddychwelyd. Hynny yw, yn unol â'i  geiriau, bydd cyfarfod yn cael ei drefnu rhynga i a'r sefydliad ar ddechrau mis Chwefror er mwyn rhoi cefnogaeth mewn grym er mwyn i mi gael dychwelyd yn dilyn hanner tymor.
Nid Lleffwctidibod yn Saesneg ydy "phased return" mewn gwirionedd. Mae'n union yr un peth yn y ddwy iaith. Dechrau yn ôl yn araf bach cyn dechrau'n ôl yn iawn er mwyn i bawb wybod ble maent yn sefyll. Ac, i mi, mae hynny'n ardderchog. Edrychaf ymlaen at yr amser hwnnw yn fawr iawn. Wow! Pethau'ndatblygu!
Yn ôl i heddiw felly. Ar hyn o bryd yr wyf yn teimlo'n isel. Isel iawn heno am ryw reswm neu'i gilydd. Teimlo'n unig eto. Teimlo fel bod pawb arall o fy nghwmpas i yn parhau i fyw eu bywydau a minnau methu. Methu y byddaf hefyd nes i mi ddychwelyd. Neu, gyda'r gobaith, bydd y boen a'r teimladau hyll yn diflannu'n reddfol. Cyn, y gobaith mwyaf, iddyn nhw ddiflannu'n llwyr. Serch hynny, rŵan y deallaf nad ar chwarae bach y mae'r teimladau yno. Rŵan y deallaf pam bod fy Meddyg, y Nyrs Iechyd Meddwl a'r Iechyd Galwedigaethol yn dweud nad wyf yn barod. Ond, wrth i mi feddwl, meddwl a meddwl mai'r teimladau iselder yn dod yn eu holau. Does dim ond un peth ar fy meddwl a dweud y gwir, sef dychwelyd i fy ngwaith. Dychwelyd at fy nghyfrifoldebau a dychwelyd at fy myfyrwyr. Yr wyf yn gweld eisiau fy myfyrwyr ar hyn o bryd. Plant yn chwerthin ac yn mwynhau'r gwersi a'r dysgu'n ddigonol ac yn heriol. Bywyd braf yw gweld y plant yr ydych yn eu haddysgu'n llwyddo o fewn gwers heb sôn am gyfres o wersi. Gweld a dilyn eu datblygiadau nhw a chael eich tynnu i mewn i'w byd nhw. Da 'di plant. Ond, credaf yr wyf yn meddwl am blant nad fyddaf yn mynd yn ôl i'w haddysgu. Plant o ysgol arall. Damiomeddwl. Meddwlrhyddwfn. Brafbysaipeidio. Dydyoddimynhelpu. Nid ar hyn o bryd prun bynnag.

Mae'n rhaid i mi roi'r gorau ysgrifennu ar hyn o bryd yn anffodus. Mae fy llygaid yn llenwi â dŵr a'r teimladau yn mynd yn waeth. Dof yn ôl pan ddof at fy hun.

Diolch,

My-Fi

Sunday 19 January 2014

Alcohol - neu'i ddiffyg.

Yr wyf wedi bod yn cymryd y feddyginiaeth wrth iselder ers wythnos bellach. Nos Sadwrn diwethaf oedd y noson gyntaf i mi eu dechrau. Felly, os cofiwch, cefais sesiwn dda ar y cwrw nos Wener ddiwethaf. Noson ble nad oeddwn yn cofio sut yr es adref! Ers hynny, dydw i heb gyffwrdd yr un diferyn. Wythnos sych a sobor fel Saint felly. Ond sut y teimlaf dros hyn a minnau yn yfwr mewn gwirionedd? Mae'r "penwythnos" wedi bod yn sanctaidd i mi ers y medraf gofio. Y sanctaidd hwnnw yw cael ymgynnull mewn tŷ tafarn leol a chael blasu'r hylif melyn nes i fy nghorff ddweud fy mod wedi cael digon. Yna, yn dilyn llon bolaid ar nos Wener yr oeddwn yn mynd adref a chysgu. Doeddwn fyth yn yfed yn ormodol. Byddwn wastad yn glynu at yr un hylif a ddim yn ei gorwneud hi drwy yfed diodydd gwahanol. Unwaith yr oeddwn yn teimlo fy mod wedi cael digon, roeddwn yn mynd. Serch hynny, ar brydiau, roedd ambell dro ble roedd 12 peint yn cael ei ystyried fel ddim llawer. Ond, byddwn yn tystio ar fy enaid mai 6 neu 7 bydd yr arferiad. A hynny, yr un modd ar nos Sadwrn hefyd. Diflannu a wnaeth fy amser i pan ddechreuais yn fy ysgol newydd.
Roedd y mis gyntaf yn grêt. Roeddwn yn helpu ffrind allan ar nos Wener a nos Sadwrn am ryw dair awr tua 6 'ma. Roeddwn efo'r cyfle i fynd a dwsin o lyfrau efo mi a'u marcio rhwng helpu hefyd. Felly, roedd fy ngwaith ysgol yn fy nilyn wrth helpu ffrind yr un modd. Grêt. Ceiniog neu ddwy i'w gwneud hefyd. Ideal - chwedl y Sais. Daeth fory ddydd Sadwrn wedyn, a doeddwn byth yn sâl wedi cael diod, ond doeddwn byth yn gosod larwm chwaith. Felly, tua hanner dydd ydoedd yn gysonach na dim. Cyfartaledd y dywedwn ni. Ac yn syth ati yr oedd hi. Am waith yr ysgol. Daeth chwech o'r gloch ac i ffwrdd a fi i helpu ffrind. Dwsin o lyfrau ac i ffwrdd a fi. Am naw, adref am quick wash, ac i ffwrdd a fi am yr arferiad. Dydd Sul yn gyffelyb i'r manylyn am hanner dydd ac i ffwrdd a mi ar y gliniadur a'r marcio bob yn ail. Rhoi'r gorau iddi tua deg. Cael bath. Ac i'r gwely.
Ni pharodd yr arferiad hwnnw'n hir. Roeddwn yn hwyrach yn mynd i'r gwely yn yr wythnos ac yn codi'n gynharach y bore. Gwrthod bod mewn car share oherwydd roeddwn am fod yn yr ysgol awr yn gynt er mwyn gweithio cyn dechrau. Hwyrach i'r gwely ac yn gynharach i'r ysgol felly. O ia - sori, wedi colli trywydd ar y testun mewn gwirionedd yma. Yr wyf yn hoff o wagio fy meddwl, mae'n ddrwg gen i.
Ia, doedd yr hen alcohol ddim yn broblem gen i hyd y gwelaf i. Haeddiannol oedd yr amser hamdden ac fel yna yr oeddwn i'n ymlacio. Ond, es i i yfed bob nos bron dros y Nadolig. Roeddwn yn mwynhau gormod a dweud y gwir  a chredaf yn gryf mai dyna sydd wedi cryfhau'r ffordd dw i'n teimlo ar hyn o bryd. Cefais hyder i fynd i dafarndai. Cefais yr hyder o gymdeithasu a sgwrsio a phobl a gwyddwn o'r gorau bod hynny'n arferiad a oedd yn ddiarth i mi ers rhai wythnosau cyn hynny. Ond, ar y cyfan felly, heb gynnwys y Nadolig, roeddwn i'n mynd am beint bob nos Wener a phob nos Sadwrn ac yn llawn haeddiant cael mynd yn fy meddwl i. Serch hynny, yn dilyn rhyw  chwe wythnos, i ganol mis Hydref, roedd yn rhaid i'r helpu a'r yfed peidio. Roedd yn rhaid i mi beidio â gwneud ychydig hynny o oriau'r wythnos o bleser yn gyfan gwbl. Roedd yn rhaid i mi weithio ar y gwaith ysgol. 
Daeth cyfnod o ddu drosta i a'r du hwnnw oedd yn cynrychioli’r gwaith roeddwn yn ceisio ei wneud. Dywedaf geisio am reswm dilys. Meddwl a chynhyrchu a pheidio bod yn hapus â'r cynnyrch yr oeddwn ac yn ail ddechrau a chydiad yn y 6ed fyg o goffi. Ond, teimlaf fy mod yn ailadrodd erbyn hyn, teimlo fel fy mod yn eich gwthio i gredu fy mod i wedi cael cam. Dydw i ddim. Ymbilio yr wyf ar fyfi fy hun i ailgydio yn fy hun. *Gwranda arna chdi dy hun My-Fi bach - ti'n swnio'n pathetig, sortia dy hun allan.* - daw fy meddyliau i chi gyfeillion fel y dant i'm meddwl. Ymddiheuriadau am y dryswch. Dydw i ddim am ei newid gan fy mod eisiau i chi brofi yn union sut mae fy meddwl yn gweithio ar hyn o bryd. A dyna ni mewn gwirionedd. Mae'n dod i ben am y pwnc 'na dwi'n meddwl. Yn ôl i'r presennol. Ella dof yn ôl rhyw ddiwrnod arall a cheisio esbonio'r dryswch llwyr yna.
Er mai neithiwr oedd y noson gyntaf i mi beidio â mynychu'r tafarndy mewn gwirionedd, roeddwn yn teimlo'n anesmwyth iawn. Credaf mai'r tor mewn normalrwydd eto sydd wedi anesmwytho fy nheimladau. Torri arferiad. Arferiad yr oeddwn yn edrych ymlaen ato drwy'r wythnos tra roeddwn yn gweithio. Nes i mi orfod peidio mynd oherwydd pwysau gwaith cynyddol a fy mhen i fethu ymdopi ag o. Ond, rŵan, caf fynd. Does dim yn fy rhwystro. Gofynnais i fy meddyg yn blwmp ac yn blaen ddydd Gwener, os gai beint efo'r feddyginiaeth. Cei medd ef ond y mwyaf yr yfi di, y mwyaf sedetad yr ei di. Hmmmmm, dim diolch! Felly, na dim diferyn.
Dydd Sadwrn nes i ddechrau ysgrifennu'r blog hwn ac mae hi bellach yn ddydd Sul. Es i i helpu ffrind heno am dair awr. Es i i dŷ tafarn i gwrdd â ffrind annwyl sydd wedi rhoi genedigaeth i ferch tri mis yn ôl. Doeddwn heb ei gweld hi ers dros flwyddyn a hanner siŵr gen i. Roedd o'n braf ei gweld hi. Doedd dim Britvic Oren yno. Gweld neis yw sudd oren a lemonêd!
Mae gen i flog arall i'w ysgrifennu mewn ychydig. Unwaith caf lonydd mi wnaf. Y stori fach nesaf yw Adroddiad yr Iechyd Galwedigaethol. Wedi cyrraedd ers bore Sadwrn, mae'n bositif iawn! Rhannaf ddarnau a chi tro nesaf a cheisio fy ngorau glas o gadw fy hunaniaeth allan ohoni.
Diolch am wrando os ydych yn rhywle.
Cofion cynnhesaf i bawb a byddwch ddiogel,
My-Fi