Tuesday 14 January 2014

Diweddariad Teimladau, Meddyginiaeth Newydd a Phroblemau Eraill

Fe fyddai'n braf cael dianc, neidio ar feic ieuenctid a rasio i'r haul! Dwyn car a dianc i herio, dewisiadau drud y strydoedd, dwyn eiliadau anweledig o fod yn fyw. Tyrd, anghofiwn y cyfan a rhedwn â'r gwynt ar ein gruddiau, allan i groesawu'r haul.
 
Byddai cryn dipyn o bobl yn fy adnabod i wrth ddarllen y geiriau uchod. Yn enwedig hen athrawes Gymraeg arna i pan oeddwn i'n berson ifanc mewn ysgol. Nid hen athrawes ychwaith, braidd yn annheg, cyn athrawes efallai. Gwirioneddol wych o athrawes a oedd yn help mawr i mi ymhell ar ôl i mi ddarfod ym myd addysg yng nghrafangau'r Awdurdod Lleol. Roeddwn i wrth fy modd â hi. A dweud gwir, yr wyf dal i feddwl cryn dipyn ohoni oherwydd yr help a gefais ganddi. Diolch Miss, ac os ydych yn gwrando - os gwelwch yn dda a wnewch chi gadw fy hunaniaeth i chwi eich hun? Diolch.
 
Ac fel yna y mae hi heddiw, fel y gwelwch yn y dyfyniad sydd yn y paragraff gyntaf. Er nad ydyw hi mewn trefn os cofiaf yn iawn, mae'r neges yn union yr un peth; "Fe fyddai'n braf cael dianc......"!!

Ac mae hynny'n wir. Nid yn unig i mi a'r hunan dosturi, ond i bawb y credaf. BAWB!!! Nid oes llawer yn traethu'r dyddiau hyn am eu bywyd braf, hapus a moethus. Dydy o ddim i'w glywed yn unman, dim ond cwyno tragwyddol sydd yn lladd ysbryd llawer o ystafelloedd ar draws ein gwlad.
 
Yr haul. Dyna i chi beth sy'n fy ngwneud i'n hapus! Yr haul a thraethau gwyn a choch. Rwyf wrth fy modd ar ynys folcanaidd yn sugno pob diferyn o'r cylch poeth pell. Yna, llosgi'n grimp a cherdded fel fy mod wedi cachu llond fy siorts am ddiwrnod neu ddau wedyn. Ond, gwyliau yw hynny. Gwyliau haeddiannol yn dilyn misoedd o weithio'n galed. Does gen i ddim o'r hawl i hyd yn oed feddwl neidio ar awyren a hedfan i'm hoff le yn y byd tra rwyf i ffwrdd yn sâl o'm gwaith. Efallai bod gennyf yr hawl a dweud y gwir gan mai "unfit for work" yw neges y papur gan fy meddyg, dydy o'n sôn dim byd am beidio mynd i sortio dy ben allan dros chwe awr i ffwrdd o'th gartref.

Ta waeth, breuddwyd yw'r cyfan. Serch hynny, y mae'n freuddwyd sydd wedi byw ynof fi ers wythnosau bellach. Breuddwyd a fyddai'n rhwystro'r dagrau rhag llifo. Breuddwyd a fyddai'n rhoi gwên ar fy wyneb pan deimlaf yn isel. Breuddwyd a fyddai'n llenwi'r ystafell gyda phobl, hapusrwydd ac atgofion pan deimlaf yn unig. Rhyfedd iawn sut all freuddwyd dorri ar draws eich myfyrdodau trist a rhoi'r teimlad o hapusrwydd i chi. Ond, mae'n gweithio'r ddwy ffordd. Dyna yw'r unig fwgan. Yn aml iawn y byddaf yn teimlo'n isel a chael breuddwyd i fy helpu. Mwy aml yw'r ffaith fy mod yn breuddwydio am fod yn hapus ac yn gwenu ar y tu mewn ond daw hunllef. Yr hunllefau yw'r teimladau a gaf ran amlaf mewn gwirionedd. Yng nghanol pob un o'r hunllefau bondigrybwyll mae'r ysgol. Yr ysgol yr wyf wedi lladd eu henw da yn fy mhen. Yr ysgol yr wyf wedi colli pob ffydd ynddi hi. Yr ysgol a edrychais ymlaen cymaint i fod yn rhan ohoni. Yr ysgol sydd yn gyfrifol am yr holl dristwch. Yr ysgol o uffern.

Efallai fy mod yn swnio'n annheg iawn yn sarhau enw'r ysgol hon yn y modd yr wyf yn gwneud. Efallai fy mod i yn annheg. Siŵr Dduw gen i fy mod i a dweud y gwir. Allan o'r llu o athrawon sy'n dysgu yno, does neb ond My-Fi i ffwrdd o'r gwaith oherwydd iselder - wel, yn fy nhyb i fryn bynnag. Er i bawb o'm cwmpas draethu mai'r ysgol sydd ar fai am y Salwch Meddwl sydd gennyf, ni allaf gytuno â nhw yn y bôn. Gwelir felly bod pob gair cas am yr ysgol yn dod o gegau pobl eraill. Fy nghymar. Fy Nyrs. Ffrindiau. Cyn athrawon sydd wedi ymddeol. Cyn cyd-weithwyr o ysgol arall.

Daw eu geiriau nhw allan o'r stori yr wyf innau wedi traethu iddyn nhw. Felly, stori un ochrog sydd ganddyn nhw. A chwithau hefyd tybiwn i. Dim ond fy ngair i sydd gan bob un ohonoch chi. Ond, ar fy llw, dyna yw'r gwir. Dydw i heb ddweud gair o gelwydd wrth neb am yr hyn sydd yn digwydd i mi rŵan yn gorfforol ac yn feddyliol nac ychwaith y stori sy'n dweud ble a pham y dechreuodd y teimladau afiach hynny. Serch hynny, efallai bod mwy iddi na hynny. Efallai mai fi yw'r broblem a dydw i ddim yn ddigon clyfar i fod yn athro? Efallai mai twyllo fy hun ydw i wedi ei wneud ers y cychwyn cyntaf? Ffawd efallai? Duw yn unig a ŵyr. Yr unig beth yr wyf innau yn ei wybod ar hyn o bryd ydy fy mod i wedi newid fy meddwl am yr Occupational Health. Ia, gweithio i'r Awdurdod a'r sefydliad yr wyf yn rhan ohoni maen nhw ond, yr wyf eisiau dychwelyd. Yr wyf eisiau teimlo'n fyw unwaith eto. Yr wyf eisiau addysgu disgyblion. Felly, yr wyf bellach yn gweld yr ochr bositif o'r busnes Iechyd Galwedigaethol 'ma. Mae'n ddatblygiad i mi, yr wyf yn ôl mewn cyswllt â'r ysgol. Serch hynny hefyd, nid y fi ddaru dorri'r cyswllt hwnnw, nhw oedd yn peidio fy ateb i pan oeddwn yn e-bostio. Ta waeth. I ateb gofynion testun y Post hwn felly, fy nheimladau diweddar? Edrych ymlaen at ddydd Iau i weld yr Occupational Health a rhoi cam ymlaen i deimlo'n normal unwaith eto.

O ran cysgu a bwyta, mae'r feddyginiaeth newydd yn gweithio'n arbennig o dda ac yr wyf ar ben fy nigon efo nhw ar hyn o bryd. Ond, o ran codi fy "mood", rhaid i mi weld beth a ddaw yn y bythefnos nesaf gan eu bod nhw'n cymryd rhwng pythefnos a phedair wythnos i gael effaith yn hynny o beth.

Problemau eraill - oes gen i broblemau eraill? Oes mae'n debyg. Mae gen i ddigonedd o broblemau eraill ond dydyn nhw ddim yn broblemau sydd yn ennill lle yn fy meddylfryd ar hyn o bryd. Problemau eraill, oes! Ond, nid ydynt yn bwysig. Gwella sy'n bwysig. Gwella a mynd yn fy ôl i'r ysgol a dechrau gweithio eto. Gwaith, gwaith a gwaith. Dyna fy ffocws i'r wythnos hon.

Diolch am wrando,

My-FI

No comments:

Post a Comment