Wednesday 29 January 2014

Cyfarfod â'r Prifathro

Ddydd Llun ydoedd pan es i i weld Prifathro'r ysgol yr wyf yn rhan ohoni. Roeddwn yn ei gyfarfod ar dir yr ysgol ac yn ei swyddfa foethus yn ystod y prynhawn. Cyn i mi fynd ati i grynhoi'r sgwrs a gawsom mai'n rhaid i mi roi'r sgwrs yn ei gyd-destun a'r bore cyn i mi gyrraedd oedd sail y cyd-destun hwnnw mewn gwirionedd.
 
Deffrais fore ddydd Llun am oddeutu deg o'r gloch. Cefais gawod ac yn y blaen ac roeddwn wedi gorffen ymolchi a gwisgo amdanaf cyn hanner awr wedi. Roeddwn wedi meddwl beth a ddylwn i wisgo yn union fel y gwnes cyn mynd i weld yr OH ac unwaith eto, fy nillad gorau enillodd yn hynny o beth. Nid oeddwn yn gadael fy nghartref tan tua hanner awr wedi hanner felly roedd gen i dros ddwy awr i fy rhoi fy hun yn y cyflwr seicolegol i fedru ymdopi â'r cyfarfod. Ond, sut ar wyneb y ddaear y mae rhywun yn gwneud hynny? Doedd gen i ddim syniad! Rhoddais iddi gynnig ar ddechrau ysgrifennu blog. Wedi i mi ei orffen a'i brawf ddarllen fel 'tae, dileu'r cwbl a wnes. Doedd dim gair yn gwneud synnwyr a hynny felly yn efelychu sut oedd fy stad meddwl ar fore cyn i mi fynd ar dir yr ysgol am y tro cyntaf ers dros ddau fis! Tir nad oeddwn wedi rhoi fy nhroed arno ers mis Tachwedd. Tir a oedd bellach yn ddiarth i mi. Pobl a oedd ar y tir yn gwybod pwy oeddwn i ond neb yn gwybod o gwbl sut oeddwn i.
 
Roeddwn wedi mynd i deimlo'n sâl, dyna yw'r gwirionedd. Roeddwn yn crynu fel deilen wrth geisio gwneud paned i mi fy hun. Cefais dri fyg o goffi i fod yn hollol gywir. Ni orffennais y trydydd oherwydd roedd y teimlad o salwch wedi trafeilio o fy mhen a fy meddylfryd i lawr at fy stumog. Roedd o'n troi bellach. Roeddwn angen y toiled a dyna ni. Ni af i ymhelaethu ond roeddwn yn sâl. Popeth yn cael ei wagio o fy nghorff ond fy meddylfryd yn dal i fod yn llawn. Popeth a fwytes ddydd Sul wedi mynd yn ddiseremoni heb unrhyw rybudd o gwbl. Cefais gryndod. Cefais deimladau a oedd yn fy siarsio i beidio â mynd. Peidio croesi'r tir. Peidio ag edrych i lygaid pobl dra yr oedden hwythau wrth eu gwaith ac yn disgwyl i mi fod hefyd.
 
Wrth i mi ddanfon fy hun yno, roedd y teimlad o fod yn sâl yn diflannu ohonof. Daeth rhyw wên fach ar fy wyneb ac roeddwn yn teimlo fy nghorff yn syrthio i mewn i'r teimlad mwyaf rhyfedd o fod wedi ymlacio. Ceisiaf fy ngorau glas i wneud y blog yma'n ddifyr i chi ond credaf i mi fethu'n llwyr ar yr achlysur hwn. Does dim ffordd i mi ddweud dim yn greadigol gan nad wyf eisiau ehangu unrhyw ran o'r stori gan fy mod yn teimlo mai hon yw'r stori bwysicaf ohonynt i gyd. Y cam fwyaf tuag at normalrwydd eto. Parhau gwnaeth y wên. Parhau nes i mi weld yr ysgol ar y gorwel. Gweld ei harddwch naturiol modern a chyfoes hi yn y pellter. Pellter a oedd yn agosáu fwyfwy bob tro ar yr olwyn. Teimlais fy nhroed dde yn dechrau anesmwytho ac ymlacio'r un pryd a'r car yn dechrau arafu. Fy nghorff yn dechrau crynu eto. Fy nagrau ar fin cychwyn. Y wên wedi diflannu a fy ngwefusau wedi cau'n dyn er mwyn ceisio rhwystro'r lli. Roedd gennyf chwarter awr cyn y cyfarfod felly mi es i rywle am fwgyn. Cefais ddau a rheiny'n rhoi hwb i mi danio'r car unwaith eto a'i ddanfon i dir yr ysgol.
 
Wrth i mi gyrraedd gwelais y ceir hardd lliwgar a oedd fel sardinau wedi parcio'n flêr. Pob un o'r ceir bron a bod yn  ddiarth ond eto'n gyfarwydd. Er i mi grynu, er i mi fod yn swp sâl, er i mi fod eisiau tanio a mynd, cerddais yn urddasol, yn awdurdodol ac yn gyflym tuag at y brif fynedfa. Defnyddiais fy allwedd i ennill y mynediad a cherddais tuag at swyddfa'r Pennaeth heb edrych ar, na rhannu gair, â neb!
 
Roedd ei ddrws ar agor felly edrychais i mewn. Doedd o ddim yno. Eisteddais ar gadair y tu allan i'w 'stafell a rhoddais fy mhen i lawr. Doedd o ddim munud yn cyrraedd. Yn llawn awdurdod rhoddodd ei law allan ac ysgwyd fy llaw i'n feddal iawn. Fel ei fod yn credu fy mod yn fregus. Gwahoddodd ef i mi eistedd ar gadair yn ei swyddfa clud a rhoddodd i mi elfen o sioc. Disgwyl yr oeddwn iddo eistedd gyferbyn â mi yn ei gadair fawr awdurdodol. Na, wrth fy ochor i yr eisteddodd o, ar yr un lefel â fi mewn gwirionedd. Dechreuodd i siarad mewn llais a oedd eto'n feddal. Cwestiwn bach oedd o - sut wyt ti erbyn hyn? Serch hynny, roedd o'n ddigon. Digon i mi, unwaith eto, torri fy nghalon wrth draethu fy stori.
 
Fesul gair, rhwng dagrau, roedd y boen yn lleddfu a'r dagrau'n arafu. Dywedodd ei fod o, fel y Pennaeth ac nid yn bersonol, yn derbyn peth helaeth o'r cyfrifoldeb dros fy salwch!! Roeddwn wedi fy synnu! Dywedodd hefyd y byddai unrhyw athro sy'n llawn profiad wedi methu addysgu'r dosbarthiadau y roeddwn i wedi cael fy rhoi i'w haddysgu heb sôn am athro newydd fel fi.
 
Roeddwn bellach yn teimlo ar ben fy nigon. Roedd popeth yr oeddwn wedi credu o'r cychwyn yn wir. Y dosbarthiadau oedd ar fai ac nid fi! Wrth ddarllen y frawddeg olaf 'na. Dydy o dal ddim yn gwneud synnwyr i mi. Roedd yn rhaid i rywun fod ar fai. Doedd o ddim am dderbyn y cyfrifoldeb yn bersonol ond roedd o'n gweld nad fy mai i oedd y ffaith fy mod yn sâl. Pwy oedd ar fai felly? Unigolyn? Oes ganddo fo neu hi enw? Mawr oedd y gobaith o gael clywed yr enw ond ni chefais. Doedd dim enw. Dim ond digwyddiadau. Serch hynny, roeddynt yn ddigwyddiadau nad ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf. Roedd digonedd o bethau y medra wedi osgoi'r salwch hwn. Salwch sydd bellach yn fai ar rywun arall, a hynny'n swyddogol o geg y Prifathro.
 
Serch fod y bai hwnnw wedi ei ddifyrru oddi wrthyf fi. Nis credaf o gwbl fod y bai ychwaith ar ben unrhyw berson arall. Camgymeriad ar ei r(h)an o/hi sy'n fwy tebyg na'r bai. Cyfuniad wedyn o'r camgymeriad hwnnw a fy nghamgymeriadau innau. Hynny yw, ymddiheurais wrth y Pennaeth am beidio manteisio ar ei bolisi drws agored. Ymddiheurais am beidio gofyn am fwy o gymorth gan yr adran a phobl eraill y gallwn fod wedi gofyn iddynt. Ymddiheurais am fy absenoldeb. Gwrthododd i gymryd yr ymddiheuriad hwnnw. Yntau wedyn crybwyllodd y bod gennyf bapur meddyg yn fy rhoi yn sâl o fy ngwaith tan y 3ydd o Fawrth. Dywedodd hefyd bod gen i'r hawl berffaith i beidio â dychwelyd tan y diwrnod hwnnw. Ond, roedd y ddau ohonom yn gytûn. Mawr well ydoedd i mi ddychwelyd cyn y gwyliau hanner tymor. Byddai ef yn sicrhau bod cefnogaeth ar fy nghyfer a byddwn yn gweithio'n araf bach cyn cyrraedd pen y daith a dechrau fod yn athro llawn amser unwaith eto. Braf hefyd oedd clywed bod fy nisgyblion yn holi'n fawr amdanaf! Brafiach fyth oedd clywed bod yr ysgol fy angen i. Angen fy arbenigedd i. Angen fy mhersonoliaeth i. Dyna braf!
 
Beth nesaf felly? - neidio ar awyren wythnos nesaf. Tra byddaf yn gorwedd ar draeth glân a phoeth yn bell oddi wrth bawb a phopeth, dof i benderfyniad. A'r penderfyniad hwnnw yw myned yn fy ôl ddydd Llun y degfed neu'r ddydd Llun canlynol. Amseraddengys. Gormodynberyg. Dimdigonynwaeth. Angenbalans.
 
Mae'n ymddangos i mi felly mai'r blog nesaf fydd yn dilyn fy ngwyliau haeddiannol (yn fy nhyb i fryn bynnag). Gwyliau sydd am fy nghryfhau fwyfwy. Gwyliau a fydd yn sail i ddirwyn myfyrdodau afiach i ben. Gwyliau fydd yn lladd y gorffennol a fy ngwthio'n ôl i normalrwydd. Edrychaf ymlaen.
 
Braf iawn yw teimlo'n fyw unwaith eto. Braf iawn yw cael gafael ar grafangau normalrwydd eto. Braf iawn yw cael gwireddu breuddwydion. Braf iawn.

Os ydych yn gwrando, gadewch neges os gwelwch yn dda.

Os nad ydych eisiau gadael neges ar y blogiau, mae croeso i bob un ohonoch drafod unrhyw ran o'r blogiau hyn drwy e-bost.

Neu, os ydych mewn sefyllfa gyffelyb, ac yn chwilio am atebion, cysylltwch â mi a cheisiaf fy ngorau i fod o gymorth i chi. Ni fyddaf, ar fy llw, byth yn datgelu, ar unrhyw adeg, pwy ydych chi. Gofynnwch unrhyw gwestiwn ac mi atebaf mor onest ag y gallaf.
 
F'e-bost yw, my-fi@outlook.com
 
Y cofion cynhesaf i bawb yng Nghymru,
 
My-Fi
 
 

No comments:

Post a Comment