Tuesday 18 March 2014

Yn ol wrth fy ngwaith!!

Annwyl Gyfeillion Annwyl,
 
Mae hi wedi bod yn sbel o amser ers i mi eich diweddaru chi â fy nghynnydd. Roeddwn yn teimlo'n eithaf euog heno wrth feddwl amdanoch chi gyd ble bynnag yr ydych chi! Os, ydych chi yno'n gwrnado hynny yw!!
 
Yn gyntaf, mi fwynheais i fy nhrip i wlad bell boeth yn fawr iawn! Gweithiodd y toriad yn uniongyrchol a fy mwriadau i gryfhau'n feddyliol. Doedd dim pryder gennyf yn y maes awyr nag wrth weld y dorf fwyaf o bobl yr wyf wedi eu hwynebu ers cryn dipyn o amser. Serch hynny, yr oedd hi'n un o'r amseroedd distawaf a gaed mewn maes awyr. Ond, yn fy nhyb i a fy mywyd arferol, roedd hi'n orlawn o bobl.
 
Pan gyrhaeddais i wedyn, i'r man ble roeddwn am dreulio f'amser, braf oedd dweud bod hi'n eithaf prysur yno hefyd. I ateb cwestiwn y rhan helaeth ohonoch, do, mi yfais ddigonedd o gwrw yno. Dim yn agos i'r faint y byddwn yn arfer ei yfed ar wyliau ond mi fwynheais i'n arw. Serch hynny, roedd teimladau afiach ynof am rhai dyddiau cyn i mi fynd. Teimladau a oedd yn codi salwch arnaf. Teimladau a oedd yn fy anesmwytho er gwaetha’i hymdrechion i dawelu fy meddwl. Ia, teimladau llawn o euogrwydd llwyr oeddynt. Euogrwydd am fynd, a phobl yn gorfod gweithio yn fy lle i yn bodoli ynof ond tuag at fy nghymar annwyl oedd yr euogrwydd mwyaf. Ni af eto fy hun ar daith. Nid oherwydd y teimlad o unigrwydd, doedd hynny'n poeni dim arnaf a dweud y gwir, euogrwydd yn unig y bachodd fy meddylfryd. Serch hynny oll, cefais amser da.
 
Pan ddeffrais fore ddydd Mawrth a'r haul poeth yn llosgi popeth a oedd yn ei ffordd, ffoniais yr ysgol hyfryd yr wyf yn rhan ohoni. Traethais iddynt fy mod yn llawer iawn cryfach a byddaf yn fy ôl y dydd Llun canlynol. Roeddwn yn yr haul. Roeddwn yn mynd yn ôl i fy ngwaith. Roeddwn i mor hapus.
 
Ac felly y bu, cefais e-bost yn cadarnhau fy nychwelyd ac roeddwn i fod i gyrraedd yr ysgol erbyn hanner wedi naw fore ddydd Llun i gyfarfod swyddog o'r adran staffio ac yna'r Prifathro. Roedd popeth ar ei fyny.
 
Doedd y teimladau oddi fewn i mi ddim yn rhy hapus pan oeddwn yn barod i ddychwelyd adref. Wrth aros am gludiant i'r maes awyr di-gymraeg cefais oriau i mi fy hun. Cerddais am yr oriau hynny ar hyd y traeth, o un pen i'r pen arall ac yna'n ôl. Bendigedig! Dyna beth a elwir yn olygfa! Er bod gennym Barciau Cenedlaethol arbennig yma yng Nghymru, does dim gwell na cherdded ar draeth gwyn a choch a'r haul yn gymar i chi'r holl ffordd. Fyntau a chwithau a'ch myfyrdodau. Gallwch chi wneud un rhywbeth efo'ch meddwl gyda'r haul, y gwres, y tywod, y môr yn sisial i'r ochr ohonoch a'r sŵn yn llenwi'ch byd. Sŵn a ellir ond ei alw'n heddwch llwyr. Alaw'r tonnau'n dawnsio’n ffyrnig a phawb yn ei werthfawrogi. Lliwiau'r haf yn fôr gwahanol o liw o'ch cwmpas chi a phawb o'r merched yn brwydro i edrych eu gorau a'r dynion yn eu gwerthfawrogi'n llwyr. Y merched yn gwerthfawrogi'r dynion wrth wenu'n braf a cherdded heb bryder yn y byd. Doeddynt ddim yn gwerthfawrogi, doedd dim ots gan neb bwy a oedd yn edrych arnynt. Oni bai am yr ychydig o'r Werin bobl y wlad a oedd yn dueddol o fod yn haws eu gweld. Y nhw oedd y rhai a oedd yn gwisgo'r trysysau hirion a siwmper. Siwmper go denau rhaid cyfaddef ond siwper yr un modd. Roedd hi'n hyfryd o ddiwrnod, y gorau a welais ers fy ngwyliau cynt. Rhyfedd o fyd. Ond, roedd o'n wirioneddol hyfryd pa bynnag lle'r oedd eich llygaid yn edrych. Doedd dim ots beth roeddynt yn ei weld, roedd popeth mor ysblennydd! Harddwch naturiol a wnaed gan ddyn! (Peidiwch â gofyn) Hyfryd! Dimbydgwell. Dimffasiwnbethagormod. Wrthfymodd.
 
Wrth i mi yrru am yr ysgol, des i stop! Roedd y bore dydd Llun hwnnw'n llawer iawn gwahanol i foreau a ddeffrais mewn gwlad arall. Roedd y dydd Llun hwnnw'n wahanol i'r teimladau yr oeddwn wedi cael wrth ysu i fynd yn fy ôl. Roeddwn yn crio ac yn chwydu a chyfogi dim byd. Y bore dydd Llun hwnnw, unwaith i mi gau drws fy nghartref a thanio'r car, roeddwn yn crynu fel ci'n cachu! Roeddwn yn cofio am y sgwrs a gefais efo ffrind o f'ysgol flaenorol. Roeddwn yn wirioneddol sâl unwaith eto.
 
Ceisiais fy ngorau glas i roi'r gorau iddi. Ceisio fy ngorau i daflu'r teimladau hyll o'r neilltu ond crynais fwyfwy wrth ymgeisio. Nid oeddwn yn fy nghar fy hun gan fod rhywbeth yn bod arno ar y pryd a doedd hynny ddim yn helpu. Er i mi yrru'r car benthyg yn eithaf aml, nid oeddwn yn oll gyfforddus ynddo a doedd yr amser hwnnw ddim yn gyfleus i gael y teimlad yna. Doedd dim amser gwaeth os caf fod yn onest. Gyfeillion, yn gwbl ddiffuant, roeddwn yn cachu brics!
 
Cyrhaeddais yn agos iddi a dechreuais ei gweld hi ar y gorwel. Golygfa fendigedig - ceisiais feddwl a methu! Roedd yn rhaid i mi barcio am eiliad. Disgynnodd y dagrau. Disgynnwyd yn ddiseremoni i lawr fy wyneb a fy llaw yn crynu wrth i mi geisio a thanio mwgyn. Ond, rhwng pob tyniad ar y sigarét, arafodd f'anadlu. Peidio a wnaeth y dagrau. Sythu gwnaeth fy wyneb. Yn gryfach yr es.
 
Taniais y car ac es yno! Cerddais a fy mhen yn uchel i mewn i'r sefydliad ac i aros tu allan i swyddfa'r Pennaeth. Daeth y swyddog allan mewn chwinciad a fy ngwahodd i eistedd cyn cynnig paned o goffi i mi. Roedd hynny am helpu! Bron i mi ofyn am flwch llwch ond gwell oedd peidio.
Rhoddwyd cynlluniau mewn grym i fy nghynorthwyo yn ôl i'm cyfrifoldebau'n llawn! Rhoddwyd cynnig i mi newid mentor ac yna ciciais fy hun am y ffordd y mae'r oll beth wedi cael ei bortreadu. Doedd dim angen newid neb arna i!! My-Fi fy hun yn unig oedd ar fai am f'absenoldeb. Y salwch oedd y prif reswm wrth gwrs ond ni ddylwn wedi parhau i wthio a gwthio nes nad oeddwn yn medru cymryd dim mwy ac achosi salwch afiach. Brwydro yn erbyn fy hun yr oeddwn mewn gwirionedd. Doedd dim synnwyr mewn gweithio drwy'r nos. Does dim synnwyr mewn colli cysylltiad â normalrwydd. Mae'n rhaid i ni beidio â gwneud hynny. Roedd digonedd o adnoddau ar fy nghyfer i'w defnyddio wrth i mi addysgu. Roeddwn yn treulio oriau ar ben oriau yn cynhyrchu adnoddau fy hun heb angen. My-Fi a benderfynodd greu rhai fy hun. Roedd drws pob un o'm cyd-weithiwr ar agor ac nid yn unig yn yr adran a'r gyfadran ychwaith! Ar draws y ffin roedd digonedd o gymorth. Ond, na, roeddwn eisiau serennu. Roeddwn eisiau fod ar y brig. Eisiau gwthio fy hun a dod o hyd i atebion i fy mhroblemau ar fy mhen fy hun. Does neb yn medru fy helpu, fy mhroblemau innau ydyn nhw! - meddyliais. Mae gan eraill ddigonedd ar eu plât - meddyliais.
 
Ceisiais i ddweud fy mod yn colli cwsg dros gynnydd rhai o'r dysgwyr yn fy ngofal unwaith. Cefais gyngor ar sut i barhau ond doedd y cyngor ddim yn gweithio wrth i mi geisio ei weithredu. Dylwn i fod wedi parhau i ddweud bod y broblem yno o hyd ond methais a gwneud hynny. Mi ddywedais wedyn, y tu allan i'r adran, fy mod yn teimlo'n fethiant llwyr (dros e-bost y tro hwn), cefais ddarlith a dweud nad dyna'r achos ond parhau a gwaethygu a wnaeth y teimladau hynny! Ond, dylwn fod wedi parhau i ddweud hefyd! Byddai'r ysgol hyfryd hon yn gwneud un rhywbeth i gynorthwyo unrhyw un o'i staff. Mae'n biti ar y naw nad es ati i chwilota am help o fy nghwmpas. Ond doedd gen i ddim hyder, a dyna ni. Digon haws dweud pethau rŵan a minnau wedi dechrau ailafael ynddi'n araf bach. Mi wnaf y munud y daw un rhywbeth. Pan fydd cwestiwn yn codi, bydd fy llais yn ei ddilyn yn syth o hyn allan.
 
Roedd hi'n hyfryd gweld wynebau'r myfyrwyr pan es i chwilota amdanynt yn eu gwers Mathemateg fore ddydd Llun. Cefais y rhyddid i fynd adref yn dilyn ein cyfarfod ond penderfynais fynd i chwilota am fy nosbarth cofrestru a dangos fy wyneb, tarwyd ar eu gwers gan fy mhresenoldeb a hynny yn fy ngwefreiddio mewn gwirionedd. Yna, es i wynebu fy nghydweithwyr agosaf, yn yr adran hyfryd o athrawon caredig gweithgar. Ffrindiau a wnaed un rhywbeth i unrhyw un sydd yn gweithio a nhw. Er i mi deimlo'n ffŵl am eu gadael heb roi'r cynnig iddynt fy helpu, unwaith eto, digon haws dweud hynny mewn hiynsight dydi? A dyna ni, trannoeth yr oeddwn yn fy ôl mewn ystafell ddosbarth yn addysgu. Am y bythefnos hynny cyn hanner tymor, yr oeddwn yn gadael yr ysgol yn dilyn y 3ydd wers. Roeddwn yn cryfhau bob diwrnod a hynny'n rhoi gwefr i mi. Gwefr am fy mod yn ddigon cryf i wynebu'r salwch a'i daro ar ei ben.

Wedyn, daeth hanner tymor. Hoe fach. Hunan fyfyrio a hunan werthuso'r bythefnos ddiwethaf. Braf oedd cael yr hoe ond daeth anffawd. Cyn yr hanner tymor mewn gwirionedd daeth y cwmwl du hwnnw dros ein teulu ni. Cwmwl du a ddaeth a galar efo fo. Roedd gennyf feddwl y byd ohoni, y ddynes a fu farw. Felly, ar y seithfed ar hugain o Chwefror, collais ddynes a oedd yn agos iawn i fy nghalon. Dynes a rhoddodd bopeth a oedd ganddi i'n teulu ni. Dynes yr oeddwn yn ei galw'n mam er mai ei chwaer hi oedd hi. Collais fy nhad yn ifanc iawn a rhoddodd y ddynes yma ei henaid i ni fel teulu. Buasai fy mam byth wedi dygymod a'r ffaith bod fy nhad wedi mynd a'i gadael gyda 4 o blant bychain oni bai am ei chwaer (marw ddaru'r creadur - nid gadael). Roeddwn bellach ar goll unwaith eto. Penderfynais fynd i'r ysbyty i weld corff y ddynes a oedd yn fam i mi. Roedd yr olygfa yn erchyll ac yn bersonol iawn ond ni chriais cymaint yn fy mywyd o'r blaen. Roeddwn yn sgrechian dros y lle.

Y diwrnod wedyn yr oeddwn i fod i addysgu fy nosbarthiadau i gyd am y tro cyntaf ers fy nychwelyd. Ac, dwnim sut, ond mi wnes i o. Es i'r ysgol a thorri fy nghalon yr holl ffordd ond aeth y gwersi'n dda iawn a chefais roi fy mhryd ar rywbeth arall a gadael i'r galar fod. Gweithiodd i'r dim a dyna ni.

Roedd hanner tymor wedyn yn anodd iawn gan ein bod ni fel teulu yn ymgynnull yn nhŷ fy nain yn feunyddiol. Cyrhaeddodd y diwrnod claddu ar ddiwedd yr wythnos. A dyna ni, y mae hi wedi mynd. Yn gorffwys.

Yn dilyn yr angladd es ar gwrs efo fy Undeb. Cwrs a oedd am fy ngwneud yn athro gwell. Roedd hi'n gwrs dau ddiwrnod a mwynheais yn arw a dysgais i lwyth!
Yng nghanol yr wythnos hefyd, derbyniais lythyr gan yr ysgol yn fy ngwahodd i i gyfweliad. Cyfweliad am y swydd yr oeddwn yn ei wneud. Cyfweliad i addysgu yn yr ysgol yn barhaol. Cafodd y swydd ei hysbysebu yng nghanol fy absenoldeb i. Yna, pan ddychwelais, ymgeisiais amdani ac edrychaf ymlaen bellach am fy nghyfweliad.

Diolch o galon am ddarllen. Byddaf yn fy ôl yn fuan.

My-Fi
 

Wednesday 29 January 2014

Cyfarfod â'r Prifathro

Ddydd Llun ydoedd pan es i i weld Prifathro'r ysgol yr wyf yn rhan ohoni. Roeddwn yn ei gyfarfod ar dir yr ysgol ac yn ei swyddfa foethus yn ystod y prynhawn. Cyn i mi fynd ati i grynhoi'r sgwrs a gawsom mai'n rhaid i mi roi'r sgwrs yn ei gyd-destun a'r bore cyn i mi gyrraedd oedd sail y cyd-destun hwnnw mewn gwirionedd.
 
Deffrais fore ddydd Llun am oddeutu deg o'r gloch. Cefais gawod ac yn y blaen ac roeddwn wedi gorffen ymolchi a gwisgo amdanaf cyn hanner awr wedi. Roeddwn wedi meddwl beth a ddylwn i wisgo yn union fel y gwnes cyn mynd i weld yr OH ac unwaith eto, fy nillad gorau enillodd yn hynny o beth. Nid oeddwn yn gadael fy nghartref tan tua hanner awr wedi hanner felly roedd gen i dros ddwy awr i fy rhoi fy hun yn y cyflwr seicolegol i fedru ymdopi â'r cyfarfod. Ond, sut ar wyneb y ddaear y mae rhywun yn gwneud hynny? Doedd gen i ddim syniad! Rhoddais iddi gynnig ar ddechrau ysgrifennu blog. Wedi i mi ei orffen a'i brawf ddarllen fel 'tae, dileu'r cwbl a wnes. Doedd dim gair yn gwneud synnwyr a hynny felly yn efelychu sut oedd fy stad meddwl ar fore cyn i mi fynd ar dir yr ysgol am y tro cyntaf ers dros ddau fis! Tir nad oeddwn wedi rhoi fy nhroed arno ers mis Tachwedd. Tir a oedd bellach yn ddiarth i mi. Pobl a oedd ar y tir yn gwybod pwy oeddwn i ond neb yn gwybod o gwbl sut oeddwn i.
 
Roeddwn wedi mynd i deimlo'n sâl, dyna yw'r gwirionedd. Roeddwn yn crynu fel deilen wrth geisio gwneud paned i mi fy hun. Cefais dri fyg o goffi i fod yn hollol gywir. Ni orffennais y trydydd oherwydd roedd y teimlad o salwch wedi trafeilio o fy mhen a fy meddylfryd i lawr at fy stumog. Roedd o'n troi bellach. Roeddwn angen y toiled a dyna ni. Ni af i ymhelaethu ond roeddwn yn sâl. Popeth yn cael ei wagio o fy nghorff ond fy meddylfryd yn dal i fod yn llawn. Popeth a fwytes ddydd Sul wedi mynd yn ddiseremoni heb unrhyw rybudd o gwbl. Cefais gryndod. Cefais deimladau a oedd yn fy siarsio i beidio â mynd. Peidio croesi'r tir. Peidio ag edrych i lygaid pobl dra yr oedden hwythau wrth eu gwaith ac yn disgwyl i mi fod hefyd.
 
Wrth i mi ddanfon fy hun yno, roedd y teimlad o fod yn sâl yn diflannu ohonof. Daeth rhyw wên fach ar fy wyneb ac roeddwn yn teimlo fy nghorff yn syrthio i mewn i'r teimlad mwyaf rhyfedd o fod wedi ymlacio. Ceisiaf fy ngorau glas i wneud y blog yma'n ddifyr i chi ond credaf i mi fethu'n llwyr ar yr achlysur hwn. Does dim ffordd i mi ddweud dim yn greadigol gan nad wyf eisiau ehangu unrhyw ran o'r stori gan fy mod yn teimlo mai hon yw'r stori bwysicaf ohonynt i gyd. Y cam fwyaf tuag at normalrwydd eto. Parhau gwnaeth y wên. Parhau nes i mi weld yr ysgol ar y gorwel. Gweld ei harddwch naturiol modern a chyfoes hi yn y pellter. Pellter a oedd yn agosáu fwyfwy bob tro ar yr olwyn. Teimlais fy nhroed dde yn dechrau anesmwytho ac ymlacio'r un pryd a'r car yn dechrau arafu. Fy nghorff yn dechrau crynu eto. Fy nagrau ar fin cychwyn. Y wên wedi diflannu a fy ngwefusau wedi cau'n dyn er mwyn ceisio rhwystro'r lli. Roedd gennyf chwarter awr cyn y cyfarfod felly mi es i rywle am fwgyn. Cefais ddau a rheiny'n rhoi hwb i mi danio'r car unwaith eto a'i ddanfon i dir yr ysgol.
 
Wrth i mi gyrraedd gwelais y ceir hardd lliwgar a oedd fel sardinau wedi parcio'n flêr. Pob un o'r ceir bron a bod yn  ddiarth ond eto'n gyfarwydd. Er i mi grynu, er i mi fod yn swp sâl, er i mi fod eisiau tanio a mynd, cerddais yn urddasol, yn awdurdodol ac yn gyflym tuag at y brif fynedfa. Defnyddiais fy allwedd i ennill y mynediad a cherddais tuag at swyddfa'r Pennaeth heb edrych ar, na rhannu gair, â neb!
 
Roedd ei ddrws ar agor felly edrychais i mewn. Doedd o ddim yno. Eisteddais ar gadair y tu allan i'w 'stafell a rhoddais fy mhen i lawr. Doedd o ddim munud yn cyrraedd. Yn llawn awdurdod rhoddodd ei law allan ac ysgwyd fy llaw i'n feddal iawn. Fel ei fod yn credu fy mod yn fregus. Gwahoddodd ef i mi eistedd ar gadair yn ei swyddfa clud a rhoddodd i mi elfen o sioc. Disgwyl yr oeddwn iddo eistedd gyferbyn â mi yn ei gadair fawr awdurdodol. Na, wrth fy ochor i yr eisteddodd o, ar yr un lefel â fi mewn gwirionedd. Dechreuodd i siarad mewn llais a oedd eto'n feddal. Cwestiwn bach oedd o - sut wyt ti erbyn hyn? Serch hynny, roedd o'n ddigon. Digon i mi, unwaith eto, torri fy nghalon wrth draethu fy stori.
 
Fesul gair, rhwng dagrau, roedd y boen yn lleddfu a'r dagrau'n arafu. Dywedodd ei fod o, fel y Pennaeth ac nid yn bersonol, yn derbyn peth helaeth o'r cyfrifoldeb dros fy salwch!! Roeddwn wedi fy synnu! Dywedodd hefyd y byddai unrhyw athro sy'n llawn profiad wedi methu addysgu'r dosbarthiadau y roeddwn i wedi cael fy rhoi i'w haddysgu heb sôn am athro newydd fel fi.
 
Roeddwn bellach yn teimlo ar ben fy nigon. Roedd popeth yr oeddwn wedi credu o'r cychwyn yn wir. Y dosbarthiadau oedd ar fai ac nid fi! Wrth ddarllen y frawddeg olaf 'na. Dydy o dal ddim yn gwneud synnwyr i mi. Roedd yn rhaid i rywun fod ar fai. Doedd o ddim am dderbyn y cyfrifoldeb yn bersonol ond roedd o'n gweld nad fy mai i oedd y ffaith fy mod yn sâl. Pwy oedd ar fai felly? Unigolyn? Oes ganddo fo neu hi enw? Mawr oedd y gobaith o gael clywed yr enw ond ni chefais. Doedd dim enw. Dim ond digwyddiadau. Serch hynny, roeddynt yn ddigwyddiadau nad ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf. Roedd digonedd o bethau y medra wedi osgoi'r salwch hwn. Salwch sydd bellach yn fai ar rywun arall, a hynny'n swyddogol o geg y Prifathro.
 
Serch fod y bai hwnnw wedi ei ddifyrru oddi wrthyf fi. Nis credaf o gwbl fod y bai ychwaith ar ben unrhyw berson arall. Camgymeriad ar ei r(h)an o/hi sy'n fwy tebyg na'r bai. Cyfuniad wedyn o'r camgymeriad hwnnw a fy nghamgymeriadau innau. Hynny yw, ymddiheurais wrth y Pennaeth am beidio manteisio ar ei bolisi drws agored. Ymddiheurais am beidio gofyn am fwy o gymorth gan yr adran a phobl eraill y gallwn fod wedi gofyn iddynt. Ymddiheurais am fy absenoldeb. Gwrthododd i gymryd yr ymddiheuriad hwnnw. Yntau wedyn crybwyllodd y bod gennyf bapur meddyg yn fy rhoi yn sâl o fy ngwaith tan y 3ydd o Fawrth. Dywedodd hefyd bod gen i'r hawl berffaith i beidio â dychwelyd tan y diwrnod hwnnw. Ond, roedd y ddau ohonom yn gytûn. Mawr well ydoedd i mi ddychwelyd cyn y gwyliau hanner tymor. Byddai ef yn sicrhau bod cefnogaeth ar fy nghyfer a byddwn yn gweithio'n araf bach cyn cyrraedd pen y daith a dechrau fod yn athro llawn amser unwaith eto. Braf hefyd oedd clywed bod fy nisgyblion yn holi'n fawr amdanaf! Brafiach fyth oedd clywed bod yr ysgol fy angen i. Angen fy arbenigedd i. Angen fy mhersonoliaeth i. Dyna braf!
 
Beth nesaf felly? - neidio ar awyren wythnos nesaf. Tra byddaf yn gorwedd ar draeth glân a phoeth yn bell oddi wrth bawb a phopeth, dof i benderfyniad. A'r penderfyniad hwnnw yw myned yn fy ôl ddydd Llun y degfed neu'r ddydd Llun canlynol. Amseraddengys. Gormodynberyg. Dimdigonynwaeth. Angenbalans.
 
Mae'n ymddangos i mi felly mai'r blog nesaf fydd yn dilyn fy ngwyliau haeddiannol (yn fy nhyb i fryn bynnag). Gwyliau sydd am fy nghryfhau fwyfwy. Gwyliau a fydd yn sail i ddirwyn myfyrdodau afiach i ben. Gwyliau fydd yn lladd y gorffennol a fy ngwthio'n ôl i normalrwydd. Edrychaf ymlaen.
 
Braf iawn yw teimlo'n fyw unwaith eto. Braf iawn yw cael gafael ar grafangau normalrwydd eto. Braf iawn yw cael gwireddu breuddwydion. Braf iawn.

Os ydych yn gwrando, gadewch neges os gwelwch yn dda.

Os nad ydych eisiau gadael neges ar y blogiau, mae croeso i bob un ohonoch drafod unrhyw ran o'r blogiau hyn drwy e-bost.

Neu, os ydych mewn sefyllfa gyffelyb, ac yn chwilio am atebion, cysylltwch â mi a cheisiaf fy ngorau i fod o gymorth i chi. Ni fyddaf, ar fy llw, byth yn datgelu, ar unrhyw adeg, pwy ydych chi. Gofynnwch unrhyw gwestiwn ac mi atebaf mor onest ag y gallaf.
 
F'e-bost yw, my-fi@outlook.com
 
Y cofion cynhesaf i bawb yng Nghymru,
 
My-Fi
 
 

Saturday 25 January 2014

Gwell, o lawer!!

Caraf ddechrau drwy ddymuno diwrnod Santes Dwynwen hyfryd a chariadus i bawb yng Nghymru Fach. Braf yw cael bod yn Gymro a chael fod yn rhan o'r dathliadau. Dim ond yn fy enaid a fy nghalon a'm meddwl. Ni chefais na cherdyn nag anrheg ond ta waeth am hynny. Parhau a wnaed.
Ar bnawn Sadwrn y pumed ar hugain o Ionawr, eisteddaf ar fy ngwely yn dechrau ysgrifennu'r blog hwn. Mae gennyf lawer i ddweud ac addewid i'w rhoi. Hoffaf ddechrau drwy ddweud fy mod yn teimlo'n llawer iawn gwell ac yn gryfach o lawer. Nid wyf wedi cael teimlad o banig nag aflonyddwch wrth fynd i unman yn ddiweddar. Diflannu mae'r teimladau afiach o dristwch yn llawer cyflymach na'r disgwyl a dweud y gwir. Gwên, a gwên go iawn diffals yw fy ngwên erbyn hyn. Teimlaf yn arbennig o dda amdanaf fy hun ac yn bositif iawn o gael dychwelyd i fy ngwaith. Happydays. Edrychifyny. Yfforddymlaen.

Y newydd da pwysicaf. Yr wyf wedi derbyn gwahoddiad gan yr ysgol yn fy ngwahodd i i gyfarfod â'r Pennaeth ganol wythnos nesaf. Codais y ffôn ar fy union a galw'r ysgol a gofyn am y Pennaeth. Roedd hi'n rhy bell i ffwrdd. Ddoe oedd hynny. Siaradais ag ysgrifenyddes y Gŵr Bonheddig. Yn erbyn awgrymiadau'r Iechyd Galwedigaethol, yr wyf bellach yn mynd i weld fy mos ddydd Llun. Rhoddwyd y cynnig i mi ei gyfarfod yn yr ysgol neu ar leoliad niwtral fel 'tae. Rhoddais fraw i mi fy hun wrth ddewis yr ysgol. Ac fel yna y mae hi.
 
Yn dilyn sgwrs â fy Nyrs Iechyd Meddwl personol, yr wyf am fentro i ddechrau'r "phased return" cyn y gwyliau'r hanner tymor. Dyna beth y byddai'n crybwyll i'r Pennaeth pryn bynnag. Mi fydd fy meddyg wedyn yn ysgrifennu llythyr i ddiddymu'r ddogfen sydd yn dweud nad fyddaf yn barod i ddychwelyd tan y 3ydd o Fawrth. Soniais wrth y nyrs hyfryd am y breuddwydion a gefais. Y traethau poeth hynny yr oedd yn sownd i fy myfyrdodau bob tro. Yr oglau hynny a oedd yn llenwi'r lle tra roeddwn yn unig. Y blas hwnnw sydd ar fy nhafod pan feddyliaf am haul. Blas hyfryd. Roedd hi'n ei weld yn syniad arbennig o dda.
Felly, y trydydd newydd heddiw yw'r ffaith fy mod am wireddu'r breuddwydion hynny ac am neidio ar awyren wythnos nesaf. Wedibwciogwyliau. Gwladpellpoeth. Edrychymlaen. My-Fi fy hun sydd yn mynd. Nid oes gennyf gwmni. Danfonaf fy hun i'r maes awyr. Caf gwmni 'Cestyll yn y Cymylau' gan Mihangel Morgan ar yr awyren. Yr wyf eisiau ei ddarllen ers tro. Yn dilyn y 'brêc', mawr obeithiaf y dof adref yn gryfach fyth. Mawr yw'r gobaith y bydd yn torri arferiad arall o eistedd adref ac yna, wedi rhai dyddiau o ddychwelyd, dechrau yn ôl yn ysgol yr wyf wedi lladd arni gymaint. Yr ysgol a rhoddodd gyfle i mi serennu. Yr ysgol a rhoddodd gyfle i mi ffwl stop. Yr ysgol sydd yn brwydro ac yn brwydro pob dydd i gael y gorau gan eu disgyblion gan eu hymestyn i'r eithaf. Yr ysgol a gaiff yr orau gan ei staff gan eu hymestyn hwythau hefyd. Yr ysgol yr wyf yn falch iawn o gael fod yn rhan ohoni. Yr ysgol yr wyf bellach yn teimlo fel ffŵl am ei gadael hi yn hytrach na defnyddio'i hadnoddau dynol hi fwyfwy. Credaf yn fawr bellach y byddwn wedi derbyn fwy o gefnogaeth os byddwn wedi gofyn amdano'n amlach. Os byddwn wedi chwilota am yr help o fewn y sefydliad yn hytrach na'r tu allan iddi. Mi wnes i ofyn, un neu ddau o weithiau, ar lafar a thrwy e-bost. Mae'r rheiny'n dal i fod gen i felly mae gen i brawf. Serch hynny, ddylwn wedi medru dweud fy nheimladau pan ddaru nhw ddechrau. Ond, dyna fo, dwrdanbont yw hynny bellach. Yr addewid sydd gennyf i'w rhoi i bawb sydd eisiau gwybod. Nid wyf am fwydro pen fy Mhennaeth am yr hyn a fu. Bydd rhaid dweud wrtho sut y teimlais a pham roeddwn i ffwrdd wrth reswm, ond, tuag at y dyfodol y byddaf yn anelu. Yr addewid i bawb felly, ni fyddaf yn edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd mwyach. Ymlaen ac i fyny fydd fy ffocws. Fy nghanolbwynt i gyd ar fy nychwelyd!
 
Ychwanegaf at waelod y blog hwn yn dilyn fy nghyfarfod â'r Pennaeth er mwyn dweud beth a ddigwyddodd ac yn lle ysgrifennu blog o'r newydd. Mi gadwai hynny i rannu rhai o'm hanturiaethau yn fy hoff le yn y byd wedi i mi ddod adref.
 
Fel teulu, bydden ni'n mynychu ddau angladd yr wythnos nesaf. Un ddydd Mawrth ac un ddydd Iau. Bechod!! Pethau hyll ydy angladd hefyd. Fe fûm mewn angladd bore ddoe hefyd. Nid perthynas, dynes yr oeddwn yn ei hadnabod ar lefel gymdeithasol.

Does dim wedi fy mhryderu am y marwolaethau canys dyna yw bywyd. Ei ddiwedd o mi wn, ond yn rhan fawr ohono ac roedd hoedrannau'r sawl yr aeth yn ddiweddar yn eithaf da. Un yn enwedig, ddim yn bell o gant!!! Y ddwy arall? Wel, mae eu poenau nhw bellach wedi'i leddfu. Cânt orffwys mewn heddwch bellach. Byddaf yno i ddathlu eu bywydau hir ac i ffarwelio wrth gwrs.

Mwynhewch weddill eich penwythnos fy nghyfeillion anwylaf.

Gyda'r cofion cynhesaf atoch a'r fendith mwyaf dros eich dydd,

My-Fi

Tuesday 21 January 2014

Adroddiad yr Iechyd Galwedigaethol a Myfyrdodau

Mae hi bellach yn nos Lun yr ugeinfed o Ionawr ac yn hanner awr wedi deg o'r gloch gyda'r nos. Cefais deimlad i wneud rhywbeth. Un rhywbeth. A dyma fi. Yn eistedd ar fy ngwely yn teipio ar fy ngliniadur y tro hwn. Gwelwch felly mae rhannu fy nheimladau yw'r "rhywbeth" hynny yr wyf wedi penderfynu ei wneud. Ond, cyn i mi ddatgelu fy nheimladau presennol, yr wyf am fynd yn fy ôl i'r apwyntiad a gefais efo'r IG.
Dydd Iau oedd yr apwyntiad. Erbyn bore ddydd Sadwrn roedd adroddiad y ledi a welais wedi dod i law! OMG! Soniais o'r blaen ei fod yn bositif ac yna rhoddais yr addewid i rannu darnau ohono gyda'r sawl sy'n gwrando neu'n darllen neu beth bynnag yr ydych fel unigolion yn credu yr ydych yn ei wneud. Gwrando ac yn darllen y byddwn i'n tybio. Ta waeth, dyna ddigon o fy nghellweirio.
Mae'r Cynghorydd Iechyd wedi dweud yn blwmp ac yn blaen wrth yr Awdurdod yr wyf yn gweithio iddi nad wyf yn ddigon da i ddychwelyd i'r gwaith. Mae hi hefyd yn crybwyll mai yn yr ysgol y mae'r salwch sydd arnaf wedi cychwyn a hynny oherwydd bod y gefnogaeth ar fy nghyfer yn gyfyng. Wrth ei ddarllen, tarodd y geiriau arnaf oherwydd roedd cefnogaeth yno. Myfi a ddaru beidio â chwilio amdano oherwydd y pwysau gwaith cynyddol a oedd yn disgyn ar y bobl a ddylwn i fynd i'w gweld. Cylch dieflig arall. Cylch nad wyf bellach yn ei weld. Cylch yr wyf wedi colli cysylltiad ag o ers i mi fynd yn sâl.
Mae popeth arall yn yr adroddiad yr un peth a dweud y gwir pan soniais ar y diwrnod yn dilyn y cyfarfod. Ni allaf fynd yn fy mlaen i drafod unrhyw ddarn arall o'r adroddiad mewn gwirionedd. Ni fyddai hynny yn gymorth i mi wrth feddwl am ddychwelyd. Hynny yw, yn unol â'i  geiriau, bydd cyfarfod yn cael ei drefnu rhynga i a'r sefydliad ar ddechrau mis Chwefror er mwyn rhoi cefnogaeth mewn grym er mwyn i mi gael dychwelyd yn dilyn hanner tymor.
Nid Lleffwctidibod yn Saesneg ydy "phased return" mewn gwirionedd. Mae'n union yr un peth yn y ddwy iaith. Dechrau yn ôl yn araf bach cyn dechrau'n ôl yn iawn er mwyn i bawb wybod ble maent yn sefyll. Ac, i mi, mae hynny'n ardderchog. Edrychaf ymlaen at yr amser hwnnw yn fawr iawn. Wow! Pethau'ndatblygu!
Yn ôl i heddiw felly. Ar hyn o bryd yr wyf yn teimlo'n isel. Isel iawn heno am ryw reswm neu'i gilydd. Teimlo'n unig eto. Teimlo fel bod pawb arall o fy nghwmpas i yn parhau i fyw eu bywydau a minnau methu. Methu y byddaf hefyd nes i mi ddychwelyd. Neu, gyda'r gobaith, bydd y boen a'r teimladau hyll yn diflannu'n reddfol. Cyn, y gobaith mwyaf, iddyn nhw ddiflannu'n llwyr. Serch hynny, rŵan y deallaf nad ar chwarae bach y mae'r teimladau yno. Rŵan y deallaf pam bod fy Meddyg, y Nyrs Iechyd Meddwl a'r Iechyd Galwedigaethol yn dweud nad wyf yn barod. Ond, wrth i mi feddwl, meddwl a meddwl mai'r teimladau iselder yn dod yn eu holau. Does dim ond un peth ar fy meddwl a dweud y gwir, sef dychwelyd i fy ngwaith. Dychwelyd at fy nghyfrifoldebau a dychwelyd at fy myfyrwyr. Yr wyf yn gweld eisiau fy myfyrwyr ar hyn o bryd. Plant yn chwerthin ac yn mwynhau'r gwersi a'r dysgu'n ddigonol ac yn heriol. Bywyd braf yw gweld y plant yr ydych yn eu haddysgu'n llwyddo o fewn gwers heb sôn am gyfres o wersi. Gweld a dilyn eu datblygiadau nhw a chael eich tynnu i mewn i'w byd nhw. Da 'di plant. Ond, credaf yr wyf yn meddwl am blant nad fyddaf yn mynd yn ôl i'w haddysgu. Plant o ysgol arall. Damiomeddwl. Meddwlrhyddwfn. Brafbysaipeidio. Dydyoddimynhelpu. Nid ar hyn o bryd prun bynnag.

Mae'n rhaid i mi roi'r gorau ysgrifennu ar hyn o bryd yn anffodus. Mae fy llygaid yn llenwi â dŵr a'r teimladau yn mynd yn waeth. Dof yn ôl pan ddof at fy hun.

Diolch,

My-Fi

Sunday 19 January 2014

Alcohol - neu'i ddiffyg.

Yr wyf wedi bod yn cymryd y feddyginiaeth wrth iselder ers wythnos bellach. Nos Sadwrn diwethaf oedd y noson gyntaf i mi eu dechrau. Felly, os cofiwch, cefais sesiwn dda ar y cwrw nos Wener ddiwethaf. Noson ble nad oeddwn yn cofio sut yr es adref! Ers hynny, dydw i heb gyffwrdd yr un diferyn. Wythnos sych a sobor fel Saint felly. Ond sut y teimlaf dros hyn a minnau yn yfwr mewn gwirionedd? Mae'r "penwythnos" wedi bod yn sanctaidd i mi ers y medraf gofio. Y sanctaidd hwnnw yw cael ymgynnull mewn tŷ tafarn leol a chael blasu'r hylif melyn nes i fy nghorff ddweud fy mod wedi cael digon. Yna, yn dilyn llon bolaid ar nos Wener yr oeddwn yn mynd adref a chysgu. Doeddwn fyth yn yfed yn ormodol. Byddwn wastad yn glynu at yr un hylif a ddim yn ei gorwneud hi drwy yfed diodydd gwahanol. Unwaith yr oeddwn yn teimlo fy mod wedi cael digon, roeddwn yn mynd. Serch hynny, ar brydiau, roedd ambell dro ble roedd 12 peint yn cael ei ystyried fel ddim llawer. Ond, byddwn yn tystio ar fy enaid mai 6 neu 7 bydd yr arferiad. A hynny, yr un modd ar nos Sadwrn hefyd. Diflannu a wnaeth fy amser i pan ddechreuais yn fy ysgol newydd.
Roedd y mis gyntaf yn grêt. Roeddwn yn helpu ffrind allan ar nos Wener a nos Sadwrn am ryw dair awr tua 6 'ma. Roeddwn efo'r cyfle i fynd a dwsin o lyfrau efo mi a'u marcio rhwng helpu hefyd. Felly, roedd fy ngwaith ysgol yn fy nilyn wrth helpu ffrind yr un modd. Grêt. Ceiniog neu ddwy i'w gwneud hefyd. Ideal - chwedl y Sais. Daeth fory ddydd Sadwrn wedyn, a doeddwn byth yn sâl wedi cael diod, ond doeddwn byth yn gosod larwm chwaith. Felly, tua hanner dydd ydoedd yn gysonach na dim. Cyfartaledd y dywedwn ni. Ac yn syth ati yr oedd hi. Am waith yr ysgol. Daeth chwech o'r gloch ac i ffwrdd a fi i helpu ffrind. Dwsin o lyfrau ac i ffwrdd a fi. Am naw, adref am quick wash, ac i ffwrdd a fi am yr arferiad. Dydd Sul yn gyffelyb i'r manylyn am hanner dydd ac i ffwrdd a mi ar y gliniadur a'r marcio bob yn ail. Rhoi'r gorau iddi tua deg. Cael bath. Ac i'r gwely.
Ni pharodd yr arferiad hwnnw'n hir. Roeddwn yn hwyrach yn mynd i'r gwely yn yr wythnos ac yn codi'n gynharach y bore. Gwrthod bod mewn car share oherwydd roeddwn am fod yn yr ysgol awr yn gynt er mwyn gweithio cyn dechrau. Hwyrach i'r gwely ac yn gynharach i'r ysgol felly. O ia - sori, wedi colli trywydd ar y testun mewn gwirionedd yma. Yr wyf yn hoff o wagio fy meddwl, mae'n ddrwg gen i.
Ia, doedd yr hen alcohol ddim yn broblem gen i hyd y gwelaf i. Haeddiannol oedd yr amser hamdden ac fel yna yr oeddwn i'n ymlacio. Ond, es i i yfed bob nos bron dros y Nadolig. Roeddwn yn mwynhau gormod a dweud y gwir  a chredaf yn gryf mai dyna sydd wedi cryfhau'r ffordd dw i'n teimlo ar hyn o bryd. Cefais hyder i fynd i dafarndai. Cefais yr hyder o gymdeithasu a sgwrsio a phobl a gwyddwn o'r gorau bod hynny'n arferiad a oedd yn ddiarth i mi ers rhai wythnosau cyn hynny. Ond, ar y cyfan felly, heb gynnwys y Nadolig, roeddwn i'n mynd am beint bob nos Wener a phob nos Sadwrn ac yn llawn haeddiant cael mynd yn fy meddwl i. Serch hynny, yn dilyn rhyw  chwe wythnos, i ganol mis Hydref, roedd yn rhaid i'r helpu a'r yfed peidio. Roedd yn rhaid i mi beidio â gwneud ychydig hynny o oriau'r wythnos o bleser yn gyfan gwbl. Roedd yn rhaid i mi weithio ar y gwaith ysgol. 
Daeth cyfnod o ddu drosta i a'r du hwnnw oedd yn cynrychioli’r gwaith roeddwn yn ceisio ei wneud. Dywedaf geisio am reswm dilys. Meddwl a chynhyrchu a pheidio bod yn hapus â'r cynnyrch yr oeddwn ac yn ail ddechrau a chydiad yn y 6ed fyg o goffi. Ond, teimlaf fy mod yn ailadrodd erbyn hyn, teimlo fel fy mod yn eich gwthio i gredu fy mod i wedi cael cam. Dydw i ddim. Ymbilio yr wyf ar fyfi fy hun i ailgydio yn fy hun. *Gwranda arna chdi dy hun My-Fi bach - ti'n swnio'n pathetig, sortia dy hun allan.* - daw fy meddyliau i chi gyfeillion fel y dant i'm meddwl. Ymddiheuriadau am y dryswch. Dydw i ddim am ei newid gan fy mod eisiau i chi brofi yn union sut mae fy meddwl yn gweithio ar hyn o bryd. A dyna ni mewn gwirionedd. Mae'n dod i ben am y pwnc 'na dwi'n meddwl. Yn ôl i'r presennol. Ella dof yn ôl rhyw ddiwrnod arall a cheisio esbonio'r dryswch llwyr yna.
Er mai neithiwr oedd y noson gyntaf i mi beidio â mynychu'r tafarndy mewn gwirionedd, roeddwn yn teimlo'n anesmwyth iawn. Credaf mai'r tor mewn normalrwydd eto sydd wedi anesmwytho fy nheimladau. Torri arferiad. Arferiad yr oeddwn yn edrych ymlaen ato drwy'r wythnos tra roeddwn yn gweithio. Nes i mi orfod peidio mynd oherwydd pwysau gwaith cynyddol a fy mhen i fethu ymdopi ag o. Ond, rŵan, caf fynd. Does dim yn fy rhwystro. Gofynnais i fy meddyg yn blwmp ac yn blaen ddydd Gwener, os gai beint efo'r feddyginiaeth. Cei medd ef ond y mwyaf yr yfi di, y mwyaf sedetad yr ei di. Hmmmmm, dim diolch! Felly, na dim diferyn.
Dydd Sadwrn nes i ddechrau ysgrifennu'r blog hwn ac mae hi bellach yn ddydd Sul. Es i i helpu ffrind heno am dair awr. Es i i dŷ tafarn i gwrdd â ffrind annwyl sydd wedi rhoi genedigaeth i ferch tri mis yn ôl. Doeddwn heb ei gweld hi ers dros flwyddyn a hanner siŵr gen i. Roedd o'n braf ei gweld hi. Doedd dim Britvic Oren yno. Gweld neis yw sudd oren a lemonêd!
Mae gen i flog arall i'w ysgrifennu mewn ychydig. Unwaith caf lonydd mi wnaf. Y stori fach nesaf yw Adroddiad yr Iechyd Galwedigaethol. Wedi cyrraedd ers bore Sadwrn, mae'n bositif iawn! Rhannaf ddarnau a chi tro nesaf a cheisio fy ngorau glas o gadw fy hunaniaeth allan ohoni.
Diolch am wrando os ydych yn rhywle.
Cofion cynnhesaf i bawb a byddwch ddiogel,
My-Fi

Friday 17 January 2014

Yr Occupational Health

11.08 y bore - Diolch i'r feddyginiaeth, cysgais fel babi neithiwr er gwaetha fy mhryderon i fynd i weld yr OH y prynhawn 'ma. Cysgais fel babi ond eto mae'r feddyginiaeth yn fy sychedu'n aruthrol a rhaid deffro bob hyn a hyn am ddiod. Ta waeth, cysgaf yn ôl yn drwm ar ôl llymaid felly does dim problem yn hynny o beth. Rŵan, tua 5 munud yn ôl, deffrais yn iawn. Ac, deffro yn crynu yr wyf wedi ei wneud. Deffro yn llawn pryder. Yn llawn ofn. Yn llawn syniadau am beth a ddaw o'r apwyntiad. Yr wyf yn gwybod bod rhaid i mi draethu'r hanes. Yr hanes sydd wedi fy rhoi yn y sefyllfa bondigrybwyll hwn. Sefyllfa sydd yn fy nychryn. Sefyllfa sydd yn dod â dagrau i'm llygaid wrth hyd yn oed meddwl amdano.
 
Mae cwestiwn arall yn codi - dillad fy hun neu siwt? Beth fyddan nhw'n ei ddisgwyl? Mae fy ngwallt yn sgrechian i gael ei drin. Edrychaf fel cardotyn. Felly, fydd rhaid i mi ymdrechu. Y siwt amdani dwi'n meddwl. Ceisio dangos iddyn nhw bod rhinweddau ac egwyddorion yn perthyn i mi a fy mod i uwchlaw'r rhai sy'n cogio eu bod yn sâl (os gen i'r hawl i ddweud hynny). Nid cogio, ond gwneud ati. Gwneud ffỳs! Dwi'n crynu fwy bellach drwy ofni mai dyna mae pobl yn meddwl amdana i. Ma' fy nghalon yn curo'n gynt na'r arfer wrth orwedd yn fy ngwely yn teipio ar fy ffôn. Pryderus. Ofnus. Unig. Methusgwennu. Geiriauddimyndod. Writersblock. Argollynfymeddyliau. Yredrychymlaenwedidiflannu.
Dof yn ôl atoch wedi i mi ddychwelyd ....hwre am y bore....

15.37 - yr wyf yn eistedd mewn bar ar fy mhen fy hun yn yfed cuppacino wrth aros am ffrind ddod i'm cyfarfod. Roeddwn yn gweithio efo'r boi yn fy ysgol flaenorol. Newydd ddanfon fy hun ydw i o'r apwyntiad efo'r Iechyd Galwedigaethol. Aeth y sesiwn yn dda iawn ar y cyfan er i mi fod yn cael gwared â dagrau di-baid o fy llygaid drwyddo. Daeth i'r amlwg fod y ledi yno hefyd yn gweld bai ar y sefydliad yr wyf yn rhan ohoni. Diffyg cefnogaeth medda hithau. Pan ddywedodd hi hynny roedd yn rhaid i mi ei chywiro. Roedd yn rhaid i mi amddiffyn y sefydliad oddi wrth y person roedden nhw wedi'i chyflogi er lles eu hunain. Dyna od! Serch hynny, dywedais wrthi fod cefnogaeth fy nghyd weithiwr yno, yn ddi-lol. Myfi ddaru ddewis peidio chwilota am y cymorth hwnnw. Cymorth a oedd yno! Cymorth, nid yw cymorth yn beth weledol ond roeddwn yn ei deimlo bob tro. Yn ddi-ffael. Ond, des i i'r ysgol yn athro arbennig o dda, os caf ddweud hynny, a doeddwn heb arfer bod eisiau llawer o gymorth wrth gyflawni fy swydd. Pleser oedd ei arferiad. Caethiwed aeth yn ddiweddarach. Atgof ydyw bellach.
 
Serch hynny, atgof ffres yr edrychaf ymlaen at ei gyffwrdd eto ag ail afael yn yr awenau o fy meddylfryd a chyflawni fy nghyfrifoldebau. Cyfrifoldebau yr wyf wedi gweithio mor galed er mwyn medru eu cyflawni. Ar ben hynny, wedi mwynhau yn arw tra'n eu cyflawni! Mi wnaf. Byddaf yn ôl!

Dyna pwrpas fy nghyfarfod nesaf mewn hanner awr. Cyfarfod dyn sydd wedi bod yn yr un sefyllfa a chael cyngor ar sut yw'r ffordd gorau i ddychwelyd.
Hwyl am y tro, My-Fi.
 
17fed o Ionawr, 2013 - 13:50 yr hwyr.
 
Ni thrafferthais roi fy ngliniadur ymlaen yn dilyn fy nghyfarfod efo ffrind ddoe. Arhosais amdano mewn tŷ tafarn reit gyfagos i'n gweithle. Cyn gweithle i mi wrth reswm, ond yn parhau i fod iddo ef. Aeth ati i siarad am ei syniadau ef wrth feddwl am ddychwelyd i'r gwaith yn dilyn dioddef Salwch Meddwl. Roedd yr amgylchiadau a oedd yn sail i dechreuad ein storïau am ble ddechreuodd y Salwch yn wahanol ond roedd y deilliannau yn gorfod bod yn debyg iawn. Cefais ganddo ddigonedd o gyngor. Cyngor a fydd yn sail i fyned yn fy ôl. Dywedodd nad yw'n haws. Roedd o wedi addo mynd yn ei ôl lawer gwaith ar ddydd Gwener ac yn meddwl dros y penwythnos cyn galw'r ysgol ar fore ddydd Llun yn datgelu nad oedd ddigon cryf. Ac wrth ddiolch iddo ef am ddweud hynny, nid wyf fi am! Roedd o fel ei fod yn dweud wrthyf ei fod yn colli parch a chefnogaeth wrth wneud hynny. Mae'r awdurdodau, yr ysgol a'r disgyblion yn gefnogol iawn ohonoch chi wrth fod yn sâl meddai. Serch hynny, pan ydych yn manteisio gormod ar hynny tra nad ydych yn yr ysgol, mae'n debyg mai lleihau y mae'r gefnogaeth. Yn enwedig wrth addo a pheidio parhau â gweithredu'r addewid. Bod yn onest felly! Serch hynny, beth os byddaf yn rhoi f'addewid o fy nghalon ac yn gorfforol yn methu â'i weithredu? Beth os ddaw'r salwch corfforol yn ei ôl? Cyfogi. Diorreah. Chwydu. Crynu. Chwysu. Ofn. Methusymud. Unig. Rhaidcroesi'rbont.....
 
Dof yn ôl at hynny pan ddaw! Yr wyf yn teimlo llawer gwell ar ôl gweld yr Iechyd Galwedigaethol ddoe. Mae cynllun mewn grym. Roedd hi wedi cael cwestiynau gan yr Awdurdod yr wyf yn gweithio iddi. Wedyn, roedd hi'n cynghori'r Awdurdod ar sut oedd datrys y broblem a oedd yn y cwestiwn. A dyna yn union beth oeddwn i mewn gwirionedd. Problem. Tu ôl i bob cwestiwn roedd problem yr oeddwn i'n ei greu. Nid ar fai am y broblem wrth gwrs (ynteu ia?), ond fi oedd y broblem pryn bynnag.
 
Roedd cwestiwn gan y Pennaeth yno wrth gwrs. Dau gwestiwn os yw fy nghof i yn gadael i mi gofio'n iawn. O leiaf dau pryn bynnag. 1) Ydyw ei salwch yn gysylltiedig â'i swydd? 2) Pryd fydd o'n ei ôl?
 
I'r cyntaf, daethpwyd i gytundeb ar ateb, yr Iechyd Galwedigaethol a finnau, ydi! Mae fy Salwch yn gysylltiedig â'm swydd. Roedd cryn dipyn o waith chwilota am yr ateb i'r ail gwestiwn. Serch hynny, ces i ddim llawer o eiriau i mewn i'r sgwrs a dweud y gwir. Roedd y ledi yn siarad a siarad. Roeddwn yn falch yn hynny o beth. Doedd dim posib iddi ddeall yn iawn beth oeddwn yn ei ddweud efo'r cyflwr oedd arnaf. Dywedodd hi nad oeddwn yn barod i hyd yn oed meddwl am ddweud "mewn pythefnos, fyddai'n fy ôl. Ei hateb hi oedd, ac roeddwn yn eithaf balch ohono (ond eto ddim yn deall pam oeddwn hefyd yn teimlo bod hynny ddim yn gwneud synnwyr), bod yr ysgol yn trefnu cyfarfod rhynga i a hwy yn y bythefnos nesaf. Roedd hi hefyd yn eu cynghori i'w gadael hi tan ddiwedd y bythefnos. Yn y cyfarfod mae hi'n fy nghynghori i ddweud wrthynt sut yr wyf wedi teimlo a pham doeddwn i ddim yn ymdopi.
 
Y mae hi hefyd wedi eu cynghori nad fyddaf yn ddigon da i ddychwelyd cyn gwyliau hanner tymor mis Chwefror. Felly, byddaf o fy ngwaith am 6 wythnos arall! Crynaf wrth feddwl amdano. Chwe wythnos gyfan!! OMG! Fyddaiwedichwythu. Rhaidcaelrhywbethi'wwneud.
 
Hefyd, "phased return". Pum deg y cant o fy oriau gweithio am y bythefnos gyntaf ac yna saith-deg-pump y cant am bythefnos arall.
 
A dweud y gwir yn blwmp ac yn blaen, ni af yn fy ôl cyn fy mod yn barod. Ond, yn dilyn gweld yr OH ddoe, ni fydd eisiau 6 wythnos arna i. Serch hynny, pwy a ŵyr beth a ddaw? Ni wyddom pa fath yfory a ddaw i ni? Ond fe awn ymlaen er mwyn diogelu, atsain o lais challineb, a chreu atgofion am yr haul ac am laswellt llwyd y bryniau. Un da oedd Miss!!
 
Byddaf yn diweddaru fy nheimladau, a digwyddiadau, yn fuan.......
 
Byddwch ddiogel ble bynnag yr ydych.....
 
Cofion cynnes,
 
My-Fi

Wednesday 15 January 2014

Rôl fy Narpar Wraig

Mae fy nghymar a finnau wedi bod yn caru ers blynyddoedd bellach. Rydyn ni'n gariadon mewn cariad, yn adnabod ein gilydd yn dda iawn ac yn ffrindiau pennaf. Byddwn wrth fy modd yn traethu'r stori ramantaidd wrthych a sôn am sut wnaethon ni gyfarfod ac ati, ond mae datgelu gormod yn beryg i mi. Rhaid i mi fod yn ofalus iawn beth a ddywedaf yn gyhoeddus wrth weithio â phobl ifanc. Ond, mi ddywedaf hyn, pan fu fy nghymar a finnau gyfarfod, roeddwn i yn y gwter. Wedyn, ac wedyn yn unig, cefais i'r freuddwyd, a'r hwb a'r gefnogaeth, i fod yn rhywun mwy na dyn ifanc tŷ cownsil ar y minimum wage.

Rydw i yn ei charu hi'n fwy na dim arall! Mae hi wedi bod yn gefnogol wrthyf ta waeth fy mhenderfyniadau. Does dim yn, nac wedi bod, yn ormod o drafferth iddi. Dim ond gofyn sydd rhaid i mi.

Ond, tra teimlaf fel methiant llwyr ac wrth fyw ym mhell yng nghanol iselder, anodd iawn yw medru siarad â hi am fy nheimladau. Anodd iawn ydy dweud fy mod eisiau gwneud un rhywbeth pan mae gennym yr amser i fod efo'n gilydd. Anodd iawn ydy mynd yn erbyn unrhyw beth y mae hi'n ei ddweud oherwydd ei sensitifrwydd hi ei hun. Yr wyf wedi byw â'r sensitifrwydd hwnnw ers yr holl flynyddoedd. Roedd ein personoliaeth ni'n dau yn hollol wahanol ar y cychwyn ond roedd o'n gweithio. Daethon ni at ein gilydd yn un o’r cychwyn cyntaf. Roedden ni'n dda iawn i'n gilydd. Er i mi siarad yn y gorffennol, yr ydym ni dal i fod!! Ceisio dweud ydw i - er ei bod hi'n sensitif, mae hi wedi gwella'n sylweddol!

Serch hynny, ar hyn o bryd, mae pethau'n cael ei wneud yn anoddach. Yr wyf innau ar un llaw yn cael trafferth fawr ymdopi â'i sensitifrwydd hi a hithau ar y llaw arall yn cael trafferth ymdopi â fy "mood" innau. Ac wrth reswm, mae hi'n anodd ar y ddau ohonom ni. Straen enfawr ar ein perthynas sydd yn ychwanegu at fy nheimladau iselder i heb os nac oni bai. Ond, dydy ei theimladau hithau ddim ar eu gorau ers yr holl beth ychwaith! Hithau hefyd wedi mynd i grio mwy er enghraifft. Cerdda hi weithiau â'i phen yn ei phlyg fel hen wraig. Fel bod y byd a'r betws wedi ei rhoi ar ei hysgwyddau hi. Edrycha hi weithiau fel ei bod hi mewn byd bach ei hun ac wrth edrych arni y byddaf yn gweld fy hun. Ac yn hynny o beth, mae'r gobaith mwyaf y tu mewn i mi, hefyd yn bwyta f'ymysgaroedd i, yn boen o feddwl os wneith hithau fynd ati i ddioddef y Salwch hwn yr wyf yn tystio gyda'm holl enaid am ei fodolaeth o. Y salwch hyll sydd yn newid y rhan helaeth o'ch meddyliau. Cancr y meddwl.
 
Pryderus ydw i mewn gwirionedd. Nid wyf o bell ffordd yn ffyddiog yr aiff hithau i mewn i iselder. Mae hi'n gryfach na fi mae'n debyg. Neu, fel dywedodd cyn athro wedi ymddeol wrthyf fi, mae'n rhaid i chdi fod yn gwybod beth ydy addysgu disgyblion yn feunyddiol cyn gwybod yn union sut mae'r iselder yma'n dod yn ei flaen, ac mae o'n llygaid ei le. Nid ceisio ei chadw allan o'm myfyrdodau i ydw i. Ceisio ei hamddiffyn hi ydw i mewn gwirionedd. Ei chadw rhag y malais yr wyf yn teimlo dros fy hun. A dyna yw'r gwirionedd. Ta waeth beth mae neb yn ei ddweud, y fi sydd wedi methu. Y fi sydd wedi cael salwch wrth geisio addysgu dysgwyr. Y fi sydd wedi cael fy rhoi ar feddyginiaeth o'r herwydd. Y fi sydd eisiau chwythu. Ond, gan ein bod ni'n un, credaf yn gryf ei bod hithau hefyd yn teimlo fel chwythu a dyna yw fy mhryder fwyaf. Mae hi wedi gwneud! Dros gyfnod yr ŵyl Gristnogol sydd yn gwneud tomen o arian i bobl gyfoethog a gwneud y tlawd yn dlotach, chwythodd ei phlwg ar nos Wener cyn i'r ysgol gau. Nid oeddwn erioed wedi ei gweld hi fel yna o'r blaen. Rhegi. Gweiddi. Crio. Cellweirio. Roedd honno'n noson drist ac yn noson a fyddai'n aros yn fy mhen i dra byddaf fyw.

Ers hynny, mae hi wedi bod yn well o lawer. Credaf i'r chwythiad hynny helpu arni. Cafodd hi'r llwyfan a'r hyder i wagio ei meddwl o ddrwg deimladau. Ond, mae'n beryg bellach bod mwy wedi ymgasglu yno. Amser a ddengys - medd pwy sgwn i? Gormod o amser yw'r broblem weithiau. Neu ddim digon ohono hefyd.
 
Mae pethau llawer iawn gwell rhyngon ni erbyn hyn ac mae hi'n gwenu. Yr wyf innau hefyd ond efallai iddo fod yn wên ffals ar brydiau. Gwên sydd yn rhaid ei ddangos er mwyn tawelu meddwl eraill. Gwên sydd ddim yn efelychu dy wir deimladau o gwbl. Ond, mae hi, o bawb yr adwaenai ar y byd hwn, yn haeddu'r wên honno yn fwy na neb na dim. Ac mae o'n helpu os caf fod yn onest. Mae o fel smocio sigarét. Mater o arfer. Habit. Ac fel yna mae'r wên, yn dod i'ch wyneb yn awtomatig (y Gymraeg da yn parhau).
 
Felly, i ateb Rôl fy Narpar Wraig yn y cyd-destun hwn, cefnogaeth - dyna'r gair allweddol. A hwnnw, dydw i ddim yn fyr ohono. Felly, mae fy nghymar yn seren. Yn eneth sydd â'i phen wedi ei sgriwio yn galed ar ei hysgwyddau. Rhaid i mi grybwyll hefyd nad fuaswn i yn derbyn ei chefnogaeth hi oni bai ei bod hi'n derbyn cefnogaeth gan ei theulu hi. Maen nhw i gyd yn arbennig o dda efo fi. Ni allaf ofyn am deulu yng nghyfraith well o unrhyw le. A hynny oll, cyn i ni hyd yn oed meddwl am briodas.
 
Heno, y byddaf yn rhannu coffi gydag un om cyd-weithiwyr o'r ysgol y dechreuais fy ngyrfa. Y swydd gyntaf a gefais. Bob nos Fercher yr ydym yn cwrdd ers i mi fod i ffwrdd o fy ngwaith. Cael rhannu fy meddyliau a fy nheimladau gyda rhywun sydd yn deall. Dim ond am rhyw hanner awr. Ond, bob wythnos y byddaf yn edrych ymlaen tuag ato. Mae o wedi ymadael â'r ysgol honno hefyd gyda llaw.
 
Yfory y byddaf yn cael yr apwyntiad gyntaf o nifer am wn i gyda'r Occupational Health. Teimladau cymysg a dweud y lleiaf. Edrych ymlaen cael mynd yno er mwyn i'r ysgol cael rhyw fath o adborth am fy nghynnydd i. Hefyd, cael dod i benderfyniad be all yr ysgol ei wneud i sicrhau fy mod yn medru gwneud fy swydd. Efallai y byddaf yn fy ôl yn gynt na'r disgwyl! Neu, efallai mai syrthio'n galetach fydd fy nhynged. I lawr i'r gwyll a'r wawr ar goll yn y gofod! Ac un diwrnod, cewch weld fy ngeiriau eneiniog, a borthwyd ar boen a distawrwydd yn dyfod yn esmwyth at blant ein brodyr gan chwilio am eu calonnau. Ni wyddom pa fath yfory a ddaw i ni ond fe awn ymlaen er mwyn diogelu atsain o lais callineb a chreu atgofion am yr haul ac am laswellt llwyd y bryniau. (Diolch Miss!)
 
Pob hwyl,
 
My-Fi

Tuesday 14 January 2014

Diweddariad Teimladau, Meddyginiaeth Newydd a Phroblemau Eraill

Fe fyddai'n braf cael dianc, neidio ar feic ieuenctid a rasio i'r haul! Dwyn car a dianc i herio, dewisiadau drud y strydoedd, dwyn eiliadau anweledig o fod yn fyw. Tyrd, anghofiwn y cyfan a rhedwn â'r gwynt ar ein gruddiau, allan i groesawu'r haul.
 
Byddai cryn dipyn o bobl yn fy adnabod i wrth ddarllen y geiriau uchod. Yn enwedig hen athrawes Gymraeg arna i pan oeddwn i'n berson ifanc mewn ysgol. Nid hen athrawes ychwaith, braidd yn annheg, cyn athrawes efallai. Gwirioneddol wych o athrawes a oedd yn help mawr i mi ymhell ar ôl i mi ddarfod ym myd addysg yng nghrafangau'r Awdurdod Lleol. Roeddwn i wrth fy modd â hi. A dweud gwir, yr wyf dal i feddwl cryn dipyn ohoni oherwydd yr help a gefais ganddi. Diolch Miss, ac os ydych yn gwrando - os gwelwch yn dda a wnewch chi gadw fy hunaniaeth i chwi eich hun? Diolch.
 
Ac fel yna y mae hi heddiw, fel y gwelwch yn y dyfyniad sydd yn y paragraff gyntaf. Er nad ydyw hi mewn trefn os cofiaf yn iawn, mae'r neges yn union yr un peth; "Fe fyddai'n braf cael dianc......"!!

Ac mae hynny'n wir. Nid yn unig i mi a'r hunan dosturi, ond i bawb y credaf. BAWB!!! Nid oes llawer yn traethu'r dyddiau hyn am eu bywyd braf, hapus a moethus. Dydy o ddim i'w glywed yn unman, dim ond cwyno tragwyddol sydd yn lladd ysbryd llawer o ystafelloedd ar draws ein gwlad.
 
Yr haul. Dyna i chi beth sy'n fy ngwneud i'n hapus! Yr haul a thraethau gwyn a choch. Rwyf wrth fy modd ar ynys folcanaidd yn sugno pob diferyn o'r cylch poeth pell. Yna, llosgi'n grimp a cherdded fel fy mod wedi cachu llond fy siorts am ddiwrnod neu ddau wedyn. Ond, gwyliau yw hynny. Gwyliau haeddiannol yn dilyn misoedd o weithio'n galed. Does gen i ddim o'r hawl i hyd yn oed feddwl neidio ar awyren a hedfan i'm hoff le yn y byd tra rwyf i ffwrdd yn sâl o'm gwaith. Efallai bod gennyf yr hawl a dweud y gwir gan mai "unfit for work" yw neges y papur gan fy meddyg, dydy o'n sôn dim byd am beidio mynd i sortio dy ben allan dros chwe awr i ffwrdd o'th gartref.

Ta waeth, breuddwyd yw'r cyfan. Serch hynny, y mae'n freuddwyd sydd wedi byw ynof fi ers wythnosau bellach. Breuddwyd a fyddai'n rhwystro'r dagrau rhag llifo. Breuddwyd a fyddai'n rhoi gwên ar fy wyneb pan deimlaf yn isel. Breuddwyd a fyddai'n llenwi'r ystafell gyda phobl, hapusrwydd ac atgofion pan deimlaf yn unig. Rhyfedd iawn sut all freuddwyd dorri ar draws eich myfyrdodau trist a rhoi'r teimlad o hapusrwydd i chi. Ond, mae'n gweithio'r ddwy ffordd. Dyna yw'r unig fwgan. Yn aml iawn y byddaf yn teimlo'n isel a chael breuddwyd i fy helpu. Mwy aml yw'r ffaith fy mod yn breuddwydio am fod yn hapus ac yn gwenu ar y tu mewn ond daw hunllef. Yr hunllefau yw'r teimladau a gaf ran amlaf mewn gwirionedd. Yng nghanol pob un o'r hunllefau bondigrybwyll mae'r ysgol. Yr ysgol yr wyf wedi lladd eu henw da yn fy mhen. Yr ysgol yr wyf wedi colli pob ffydd ynddi hi. Yr ysgol a edrychais ymlaen cymaint i fod yn rhan ohoni. Yr ysgol sydd yn gyfrifol am yr holl dristwch. Yr ysgol o uffern.

Efallai fy mod yn swnio'n annheg iawn yn sarhau enw'r ysgol hon yn y modd yr wyf yn gwneud. Efallai fy mod i yn annheg. Siŵr Dduw gen i fy mod i a dweud y gwir. Allan o'r llu o athrawon sy'n dysgu yno, does neb ond My-Fi i ffwrdd o'r gwaith oherwydd iselder - wel, yn fy nhyb i fryn bynnag. Er i bawb o'm cwmpas draethu mai'r ysgol sydd ar fai am y Salwch Meddwl sydd gennyf, ni allaf gytuno â nhw yn y bôn. Gwelir felly bod pob gair cas am yr ysgol yn dod o gegau pobl eraill. Fy nghymar. Fy Nyrs. Ffrindiau. Cyn athrawon sydd wedi ymddeol. Cyn cyd-weithwyr o ysgol arall.

Daw eu geiriau nhw allan o'r stori yr wyf innau wedi traethu iddyn nhw. Felly, stori un ochrog sydd ganddyn nhw. A chwithau hefyd tybiwn i. Dim ond fy ngair i sydd gan bob un ohonoch chi. Ond, ar fy llw, dyna yw'r gwir. Dydw i heb ddweud gair o gelwydd wrth neb am yr hyn sydd yn digwydd i mi rŵan yn gorfforol ac yn feddyliol nac ychwaith y stori sy'n dweud ble a pham y dechreuodd y teimladau afiach hynny. Serch hynny, efallai bod mwy iddi na hynny. Efallai mai fi yw'r broblem a dydw i ddim yn ddigon clyfar i fod yn athro? Efallai mai twyllo fy hun ydw i wedi ei wneud ers y cychwyn cyntaf? Ffawd efallai? Duw yn unig a ŵyr. Yr unig beth yr wyf innau yn ei wybod ar hyn o bryd ydy fy mod i wedi newid fy meddwl am yr Occupational Health. Ia, gweithio i'r Awdurdod a'r sefydliad yr wyf yn rhan ohoni maen nhw ond, yr wyf eisiau dychwelyd. Yr wyf eisiau teimlo'n fyw unwaith eto. Yr wyf eisiau addysgu disgyblion. Felly, yr wyf bellach yn gweld yr ochr bositif o'r busnes Iechyd Galwedigaethol 'ma. Mae'n ddatblygiad i mi, yr wyf yn ôl mewn cyswllt â'r ysgol. Serch hynny hefyd, nid y fi ddaru dorri'r cyswllt hwnnw, nhw oedd yn peidio fy ateb i pan oeddwn yn e-bostio. Ta waeth. I ateb gofynion testun y Post hwn felly, fy nheimladau diweddar? Edrych ymlaen at ddydd Iau i weld yr Occupational Health a rhoi cam ymlaen i deimlo'n normal unwaith eto.

O ran cysgu a bwyta, mae'r feddyginiaeth newydd yn gweithio'n arbennig o dda ac yr wyf ar ben fy nigon efo nhw ar hyn o bryd. Ond, o ran codi fy "mood", rhaid i mi weld beth a ddaw yn y bythefnos nesaf gan eu bod nhw'n cymryd rhwng pythefnos a phedair wythnos i gael effaith yn hynny o beth.

Problemau eraill - oes gen i broblemau eraill? Oes mae'n debyg. Mae gen i ddigonedd o broblemau eraill ond dydyn nhw ddim yn broblemau sydd yn ennill lle yn fy meddylfryd ar hyn o bryd. Problemau eraill, oes! Ond, nid ydynt yn bwysig. Gwella sy'n bwysig. Gwella a mynd yn fy ôl i'r ysgol a dechrau gweithio eto. Gwaith, gwaith a gwaith. Dyna fy ffocws i'r wythnos hon.

Diolch am wrando,

My-FI

Monday 13 January 2014

Meddyginiaeth Gwrth Iselder ac Occupational Health

Mae meddyginiaeth wrth iselder yn bethau afiach. Wel, mi roedd y rhai cyntaf a ges. Dydw i ddim yn hyd yn oed yn cofio eu henwau nhw. Dechreuais eu cymryd dros wythnos yn ôl bellach. Cofiaf mai 20mg oedden nhw. Cefais gyfarwyddiadau i gymryd hanner tabled am y 4 diwrnod cyntaf ac yna un llawn. Dydd Mawrth (seithfed) cymerais yr un llawn cyntaf. Yna, un arall ddydd Mercher. WOW!!! coldturkey. Gorweddyngwely'nsal. Methusymyd. Ofnamfymywyd. Panig!!

Es ati i'w cymryd tan ddydd Gwener. Roedd gen i apwyntiad ddydd Gwener efo'r nyrs hyfryd honno o'r tîm Iechyd Meddwl. Taflais y tabledi tuag ati a dweud wrthi am eu cadw nhw. Doeddwn i heb gysgu ers pedair noson nag heb fwyta ers tridiau. Roedd fy nghymar yn lloerig efo'm datblygiad i. Roedd hi'n torri ei chalon, sydd bellach yn fregus o fy herwydd i, dros y golwg oedd arna i. Dydy hi ddim yn ymdopi'n dda iawn tra rwyf fel hyn. Ta waeth, dof yn fy ôl at y stori honno. Y tabledi 'na oedd ar fai!
Cefais rai newydd. Rhai 15mg ond hefyd yn helpu chi gysgu. Eu cymryd gyda'r nos yn hytrach na'r bore. Dim gyrru car ar eu holau. Dim gweithio efo peiriannau (byddai gweithio ffwl stop yn dda!!). Mirtazapine 15mg.

Cefais fy nhabledi ddydd Gwener ond nid oeddwn yn cael cymryd un y diwrnod hwnnw gan fy mod wedi cymryd un o'r lleill yn y bore. Roedd y label arnynt yn ddychrynllyd a dweud y gwir "Avoid Alcohol". Serch hynny, maent yn dweud wrthoch chi am beidio yfed efo unrhyw dabled. Lol bots! Ond, yn dilyn dweud hynny, dw i am ddilyn y cyfarwyddiadau hynny er mwyn cael y gorau allan o'r tabledi a chryfhau ddigon i ddychwelyd i'r gwaith. Normalrwyddeto. Methuagaros:-).

Felly, y nos Wener honno, es i amdani. Yfais fel pysgodyn drwy'r nos a chofio affliw o ddim a ddigwyddodd. Nid wyf fyth elwach sut yr es i adref a dweud y lleiaf. Cofiaf un peth. Roeddhi'nnosondda. Letlose. Mwynhau'narw.
Ac wedyn, nos Sadwrn, yn unol â'r addewid i mi fy hun a phawb o'm cwmpas i, ni es i dý tafarn. Llyncais un o'r tabledi yn fy ngwely yn gwylio DVD's. Cysgais! Oh do, mi gysgais. Oddeutu hanner nos Nos Sadwrn tan ugain munud wedi pedwar prynhawn ddydd Sul. Un awr ar bymtheg ac ugain munud o gysgu. Mae'n ymddangos i mi felly bod fy nghorff druan angen y cwsg hwnnw a oedd yn siŵr o fod yn golledig. Cwsg nad oeddwn byth am gael yn ôl roeddwn i wedi colli a dyma'r tabledi'n gweithio. Canlyniad! Wrthfymodd! Teimlo'nwellarolcysgu'n iawn!!

A neithiwr yr un modd. Dim am 16 awr ond mi gysgais, ac rwyf yn bwyta fel mochyn. Rhoddaf gyfle felly i'r tabledi yma gymryd effaith a gwneud i mi beidio teimlo fel methiant llwyr.

Yn dilyn fod i'r fferyllydd i nôl y feddyginiaeth wirion, roedd llythyr wedi dod drwy'r post. Llythyr a oedd yn fy ngwahodd i, yn orfodol, i apwyntiad efo'r Occupational Health. Dydw i heb ymchwilio i mewn i'w swyddogaeth, neu eu rhan nhw yn y peth os mynnwch, eto, ond credaf yn gryf y medraf ddyfalu. Yno maen nhw i ddweud wrth eich cyflogwyr bod dim byd yn bod arnoch chi a rhaid i chi ddychwelyd i'ch gwaith. Yn araf bach wrth gwrs. Phased Return yn Saesneg. Lleffwctidibod yn Gymraeg. Er allaf dystio fy mod yn teimlo'n well ynof fy hun, dwi'n swp sâl wrth feddwl am orfod mynd i weld rhywun diarth arall a thraethu fy stori. Stori a ddechreuodd yn yr ysgol. Stori a fydd yn gorffen yno hefyd, rydw i'n benderfynol yn hynny o beth. Does dim na neb wedi cael y gorau ohonof fi yn y gorffennol ac nid oes newid yn hynny rŵan. Wel, dyna yr obeithiaf prun bynnag. Hynny yw, yno mae'r gobaith fy mod yn berson ddigon cryf i leddfu'r boen sydd yn fy mrifo i'r eithaf yn fwy na neb na dim erioed o'r blaen. Poen am nad wyf yn cyflawni'r hyn yr wyf wedi'i addo i'r disgyblion ac i mi fy hun. Poen sydd yn bwyta tu mewn i chi ac yn ceisio dianc o'r corff pan oes 'na ddim ar ôl i'w fwyta. A does dim ond un ffordd iddo ddianc. Y boen. Rhaid i'r boen ddod o'r meddwl. O'r pen. Drwy ddagrau neu drwy chwythu. Pan does dim dagrau yn weddill. Chwythu mae'r pen. A dyna ddigwyddodd. Un peth dwi'n falch ohono, ar fy mhen fy hun oeddwn i pan chwythodd. Cafodd neb ei frifo, dim hyd yn oed fi, dim ond ambell i garreg a daflais i'r môr wrth wylio'r llanw'n cusanu'r tir. Tonau dieflig yn ysu am orchuddio'r cerrig mawr ger y lan ac yn ceisio dringo drostynt a boddi popeth yr oedd yn ei gyffwrdd, gan gynnwys fi.

Ni chefais deimlad o hunan laddiad, yr wyf yn addo hynny. Teimlad o wedi cael digon do, ond nid o fywyd chwaith. Dim ond wedi cael digon o'r meddyliau ffiaidd sy'n bwyta f'ymysgaroedd. Gorfod mynd i siarad efo rhywun mae fy nghyflogwyr wedi'u cyflogi er mwyn dweud fy mod i'n barod i ddychwelyd i'm gwaith. Dwi'n gobeithio fy mod i. Er, dydy fy Meddyg i, na'r Nyrs Iechyd Meddwl yn credu hynny. Ac, yn anffodus i fy nghyflogwyr, er gwaetha'r ffaith eu bod nhw'n talu am y pleser o arfarniad eu meddyg, fy GP a'r Nyrs sydd yn f'adnabod i fydd yr unig ddau i benderfynu pryd y bydda i'n holliach i ddychwelyd. NEB arall. Fi a'r NHS ôl ddy we!!

Mae siarad yn helpu. Efo rhai yn fwy nag eraill. Wrth ddioddef y salwch hwn rwyf wedi dod i wybod fwy am bobl. Un, rwyf yn ei adnabod drwy'i waith ac ar lefel gymdeithasol wedi bwriadu lladd ei hun wythnos diwethaf. Druan ohono. Mae’i ben o'n dioddef, y creadur!! Un arall ydy geneth ifanc. Geneth y gallaf ddweud sy'n hen gariad i mi. Doedd hi ddim mewn gwirionedd, ond roeddwn i'n ei charu hi. Roeddwn yn gweld piti mawr dros fy hun am iddi fy ngwrthod yr holl flynyddoedd yn ôl ond ni chefais iselder ychwaith. Tybiaf weithiau beth fyddai wedi digwydd petai hi heb fy ngwrthod i ar yr amser hynny? Tybed os fyswn i yma rŵan yn ysgrifennu er mwyn ceisio rhoi ffordd arall i'r boen ddianc ohonof. Ta waeth, dwr dan bont. Er hynny, rwyf yn falch iawn ein bod ni'n ffrindiau. Rwyf yn meddwl y byd ohoni. Ond eto, gwyddwn i ddim ei bod hi wedi bod i'r ffasiwn le ac wedi dioddef o'r Salwch Meddwl afiach yma sy'n lladd pobl yn ein cymdeithasau. Os nad yn gorfforol, mae eu meddyliau nhw'n brysur yn marw. Ond eto, mae'r eneth yr wyf yn siarad amdani wedi brwydro ac wedi dod drwyddi, ac yn ei geiriau hi, "ar y top". Felly, mae'r gobaith yno o hyd. Mae edrych arni hi, edrych drwy ei harddwch naturiol hi, wedi gwneud i mi feddwl ddwywaith mai sbwriel ydy'r tabledi 'ma. Efallai bod golau i weld ar ddiwedd y twnelhirtywylldu. Golau a ddaw drwy feddyginiaeth. Golau a fyddai'n diffodd yn syth pan fydd rhywbeth yn digwydd siŵr gen i. Ond, amser a ddengys, ac ar hyn o bryd, dim ond amser, tabledi, cyfeillgarwch a chariad sydd gen i ar ôl......... onid ddylai hynny fod yn ddigon?......

Gadewch neges os ydych yn gwrando.

Gyda diolch, cofion cynhesaf,

My-Fi

Monday 6 January 2014

Normalrwydd, i rai!

Mae'n anodd meddwl am normalrwydd wrth fod adref unwaith eto ar ddechrau tymor newydd. Danfonais e-bost i'r ysgol am 7 o'r gloch y bore 'ma. Neges fer ydoedd a oedd yn crybwyll fy mod am fod i ffwrdd o'm gwaith unwaith yn rhagor am bythefnos.

Y peth mwyaf cythryblus am hynny yw'r ffaith bod nad oes NEB o'r ysgol wedi cydnabod eu bod wedi derbyn yr e-bost hwnnw er i mi eiddanfon i nifer o adrannau gwahanol. Neb yn dweud "diolch am dy e-bost", "gobeithio byddi di'n well", hyd yn oed dim "oce".
Ychwanegu tuag at fy nheimladau hyll mae hynny wedi'i wneud. Teimlo'n drist gan ei bod hi'n amlwg nad ydynt yn poeni amdanaf. Serch hynny, mae pawb yno'n brysur. Rhai â gwaith ychwanegol oherwydd f'absenoldeb i a hynny efallai'n rheswm dilys dros beidio â chysylltu'n ôl. Felly, fy mai i ydy hynny mewn gwirionedd.

Doeddwn i ddim eisiau papur doctor arall a dweud y gwir. Dywedais yn gadarn wrth y Nyrs Iechyd Meddwl fy mod am ddychwelyd heddiw. Roedd hi'n falch fy mod i'n teimlo'n well a dweud y gwir. Ond, serch hynny, dyma oedd y tro cyntaf i mi ei chyfarfod hi. Felly, es ymlaen i draethu sut yr oeddwn yn teimlo a ble ddechreuodd y teimladau hynny. Torrais fy nghalon am y sesiwn gyfan. Hi a ddywedodd wedyn nad oeddwn, o bell ffordd, yn barod i ddychwelyd. Doedd hi ddim yn credu y byddwn wedi ymdopi yn yr ysgol os oeddwn mewn darnau yn siarad â hi. Methu'n glir a siarad heb ollwng dagrau hallt. Dyna pryd y penderfynodd hi fod rhaid i mi fynd ati i gymryd meddyginiaeth wrth iselder. Roeddwn yn erbyn hynny o'r cychwyn cyntaf! Unwaith mae rhywun yn dechrau'r rheiny, dydyn nhw methu a byw hebddyn nhw wedyn. Wel, dyna yr oeddwn i'n credu pryn bynnag. Ond, roedd hi'n anghytuno â mi a dywedodd bod doedd gen i ddim yr hawl i benderfynu os oeddwn yn mynd yn f'ôl neu beidio tra roeddwn mewn ffasiwn stad a byddai'r feddyginiaeth yn codi fy "mood" ac yna y byddwn mewn gwell cyflwr i wneud y penderfyniad hwnnw.

A dyna gyfeillion annwyl, sydd yn rhaid i mi ei wneud. Wedidechraucymrydhappypills. Pwyondfi? Bywmewngobaith. Amroibythefnosiddynnhw. Gawniweld.

My-Fi

Thursday 2 January 2014

Pan Ddaw'r Gwirionedd

Mawr obeithiaf fod bawb sy'n credu yn yr ŵyl Gristnogol flynyddol wedi cael Nadolig gwerth chweil. Gobeithiaf fod bawb wedi bwyta ac yfed yn ormodol ac yn bwysicach fyth, wedi bod yn llawn hwyl ac yn chwerthin. Yn enwedig athrawon. Mae'r amser hwn o'r flwyddyn yn rhoi rhwydd hynt i athrawon cael toriad haeddiannol iawn. Mae'r straen dros y tymor gyntaf yn fwy nag unrhyw dymor arall ac felly mae'r hoe yn llawn haeddiant i bob un athro yng Nghymru!! Oni bai am un mae'n debyg. Fi yw hwnnw!! Serch hynny, mae'r cyfnod Nadoligaidd wedi fy helpu a dweud y gwir. Wedi bod yn gymorth i mi feddwl yn galetach am beth sydd o'mlaen i. Ces rannu diod a chwmni'r athrawon o fy hen ysgol. Dydyn nhw ddim yn gall!! Un ddynes yn enwedig, dynes ganol oed sydd yn dysgu pwnc nad fyddwch yn credu wrth siarad â hi ar lefel bersonol. Gwych o ddynes!! Cefais gefnogaeth gan y gweddill. Pob un methu a chredu fy mod i wedi methu yn yr ysgol yr wyf ynddi (neu ddim) ar hyn o bryd.

Torri 'nghalon a wnes efo nhw drwy'r rhan fwyaf o'r amser a dreuliais yn eu cwmni. Teimlo'r piti afiach hwnnw dros fy hun a thraethu'r hyn a oedd ar fy meddwl. Doedden nhw ddim yn credu eu bod nhw'n siarad efo'r un a adawodd eu hysgol nhw. Roedd hyn oll yn gwneud i mi deimlo'n well. Yn teimlo fel fy mod yn cael cefnogaeth gan bobl a oedd yn fy adnabod i ar lefel broffesiynol. Roeddwn i a phawb yn gytûn. Y dosbarthiadau yr wyf wedi cael fy rhoi i'w haddysgu oedd asgwrn y gynnen rhwng normalrwydd a fi.

Ac, yn ychwanegol i hynny, dyna eiriau'r Nyrs hyfryd a es i'w gweld y bore 'ma. Mae dal teimlad o fethiant ynof o hyd. Ond, mae'r stori dwi'n traethu yn gwneud i bawb feddwl mai rhywun o fewn y sefydliad yr wyf yn rhan ohoni sydd wedi gwneud i'r teimladau ddechrau. Rhywun mewn grym yn penderfynu eich ffawd chi hyd yn oed cyn i chi ddechrau'r swydd.

Cefais ddosbarthiadau gwael. Ac ia, swydd athro yw ymglymu’r dysgwyr i'w wersi a'u cael i dynnu allan o ystod eang o brofiadau a'u haddysgu i werthuso'r profiadau hynny a gwneud cynnydd yn eich pwnc ac yn dysgu'r hyn yr ydych am iddynt ddysgu. Ac felly, nid yw hi'n statudol i ddweud nad ddylai unrhyw athro, boed yn llawn profiad neu'n newydd, beidio â chael y dosbarthiadau isel eu gallu mewn ysgol. Serch hynny, fel athro newydd, mae'n rhaid i mi anghytuno efo'r penderfyniadau i roi dosbarthiadau i mi fel y gwnaethpwyd. Roedd fy nosbarth TGAU yn llawn dop!! Roedd amrywiaeth mawr yn eu graddau targed. Roeddwn fyny dan oriau mân y bore yn ymgeisio i greu gwersi effeithiol i deilwra tuag at bob ystod gallu. Ond, weithiau, yn dilyn ceisio cynllunio gwers 50 munud am 5 awr (a dal ddim elwach) roeddwn yn dechrau anesmwytho. Roeddwn yn teimlo'n fethiant llwyr am FETHU eu sbarduno (danfonais e-bost i ddweud hynny hefyd). Roedd o'n gylch dieflig. Roedd fy nosbarthiadau eraill yn methu allan ar brofiadau oherwydd fy mod yn treulio gormod o amser yn ceisio addysgu'r "pwysigion". 20 o blant a'u graddau targed yn amrywio o B i E. Ambell un ddim heb syniad. Ambell un arall angen sylw ac eglurhad yn dragywydd. 6 ohonynt yn ddigon peniog ond well oedd ganddynt beidio. Y rhai oedd eisiau, dim gobaith oherwydd y sŵn. Roedd fy mlwyddyn 10 wedi ei setio yn debyg. Hynny yw, fi'n cael y rhai gwanaf a'r ffyliaid i gyd mewn un dosbarth. Blwyddyn 9. Tebyg!! Llaiohonynnhw. Plantlyfli.

Mewn un dosbarth roedd plentyn o wlad Pwyl. Doedd y plentyn ddim yn siarad gair o Saesneg. Felly, roedd yn rhaid i mi, eto tan oriau mân y bore, ddysgu Pwyleg i mi fy hun er mwyn ei (h)addysgu o/hi. Unwaith eto, mynegais fy mhryderon. Ni chafodd llawer ei wneud. Dim os caf fod yn onest.

Hoffwn draethu llawer mwy ond credaf y byddai ymhelaethu mwy yn rhoi gormod i ffwrdd am fy hunaniaeth mewn gwirionedd.

Fel y dywedais yn gynharach. Fe fûm i weld Nyrs Iechyd Meddwl y bore 'ma am y tro cyntaf ers i mi fod yn absennol. Roeddwn wedi rhoi fy mhryd ar gael dychwelyd i'm gwaith ddydd Llun nes i mi ei gweld hi. Traethais fy stori yn guddiedig du ôl i lu o ddagrau hallt. Dydy hi ddim am i mi fynd yn f'ôl. Mai am i mi gymryd tabledi gwrth iselder. Dyna'r gair y dydd heddiw i mi. Gair y flwyddyn newydd a dweud y gwir. Iselder.

Blwyddyn newydd dda i chi gyd.

My-Fi