Friday 6 December 2013

Y Nosweithiau'n Unig

Yr wyf yn fy ngwely ers oriau. Wedi gwylio dwy ffilm efo fy narpar wraig. Y mae hi'n chwyrnu'n braf yn y gwely a minnau ar lawr yn ysgrifennu hwn. Ia, yn gorwedd ar y llawr.

Ceisio dadansoddi fy holl feddyliau ydw i ac yn ceisio deall pam y teimlaf fel hyn. Unig. Pryderus. Ofnus. Unig. Anefnyddiol. Methiant. Unig. Wedicaeldigon. Nunlleidroi. Argoll. Wedinewid.
 
Wrth gwrs bod rhaid mynd at graidd popeth wrth geisio chwilio am atebion. Fel llys barn er enghraifft, rhaid cael clywed y dystiolaeth cyn mentro i gael arfarniad gan reithgor. 12 pen yn eich dyfarnu'n euog neu'n ddieuog a minnau'r un modd. Ond, 12 meddwl yn fy mhen sydd gen i ac yn methu'n glir a'u cael i gytuno. Felly, pendroni gwnaiff y 12 meddwl a fy rhwystro i rag cysgu. Cymryd drosodd fy meddylfryd yn gyfan gwbl. Daw meddwl heibio a hwnnw'n crefu arna i fynd yn ôl i'm gwaith. Ei ffrindiau o wedyn yn dweud wrtho am beidio fod yn fyrbwyll. Rhywbeth arall yn dweud 'babi'. Un arall yn dechrau rhestru'r rhesymau a minnau methu'n glir a medru'u blaenoriaethu. Dydyn nhw ddim mewn trefn. A'r isymwybod yn dechrau siarad yn gall drwy bwyntio. Pwyntio tuag ati hi sydd yn gorwedd yn y gwely yn breuddwydio am y bywyd moethus hwnnw yr wyf wedi'i addo iddi. Wedi lladd fy hun drwy golegau am bedair blynedd heb ddim llawer o hyfforddiant blaenorol megis ysgol. Wedi rhoi'r traethodau bondigrybwyll i mewn ar amser ac wedi llwyddo i ddadansoddi gweithiau bobl enwog iawn a rhoi fy marn arnynt i ateb cwestiynau mewn iaith nad oeddwn yn gwybod a oedd yn bodoli bron. Yr iaith Gymraeg ydy hi wrth reswm ond nid fel yna roeddwn i wedi arfer siarad nac ysgrifennu'r iaith cyn y diwrnod cyntaf hwnnw yn y Brifysgol. Roedd hi'n galed. Caled iawn oedd ceisio meistroli’r iaith Gymraeg llenyddol a sylfaenol. Arferiad ydy tafodiaith. Serch hynny, mi wnes i o. A brwydro drwy ymarfer dysgu wedyn a gweithio dan 7 y bore cyn cael cawod a mynd i'r ysgol i ddysgu.

Mi wnes i o. Cefais swydd wedyn mewn ysgol fendigedig (nid bod hon yr wyf ynddi ddim) a thorrais fy nghalon wrth ymadael â hi mewn gwirionedd. Ond, roeddwn wrth fy modd gyda'r her newydd o ysgol newydd a dod â'm mhrofiadau blaenorol efo mi a chryfhau! Bod yn well! Datblygu! Codi safonau ym myd addysg drwy roi'r cant y cant ym mhopeth!! CRASH!!!! Dyma fi wedi chwalu. Efallai nad breuddwydio am y bywyd moethus yr wyf wedi'i addo iddi y mae fy nghymar annwyl. Efallai mai hunllef sydd arni, am yr hyn, sydd siŵr gen i, o'i blaen hi.

Siŵr eich bod yn ysu am gael clywed beth a ddigwyddodd ond - nis gwyddwn. Mae gen i atebion ond pa un sy'n gywir? Ble rydych yn dechrau traethu am yr hyn sydd wedi dwyn eich holl hyder? Gwneud i chi grynu pan nad ydych yn teimlo'n gyfforddus. Gwneud i chi grynu pan welwch dorf o bobl. Chwydu ar adegau heb rybudd. Peidio mynd allan ar eich pen eich hun. Afiach o deimladau!! Mae'n braf cael dweud bod 'na fymryn o obaith mewn gwirionedd. Yr wyf bellach yn teimlo'n dipyn gwell a dweud gwir.

Edrychaf ymlaen cael clywed gan y GP i gael mynd i weld Nyrs Mental Health.......... dof yn fy ôl yn fuan......gadewch neges a diolch am ddarllen....

My-Fi

No comments:

Post a Comment