Sunday 8 December 2013

Cefndir

Does dim llawer yn edrych ar yr hyn ag yr ysgrifennaf yma. A dweud y gwir nis credaf fod neb wedi ei ddarllen dim ond pori dros y we a dod ar ei draws yng nghanol blogiau bobl eraill mewn iaith y maent yn ei ddeall. Ta waeth, efallai y daw 'na rywun rhyw ddiwrnod a darllen fy myfyrdodau cryf ond, tan hynny, rwyf yn siarad efo fi fy hun. Does affliw o'r ots gen i yn hynny o beth chwaith, llwyfan i fy meddyliau dw i'n chwilio amdano. Llwyfan i geisio gwagio (dyna Gymraeg da) fy meddwl o feddyliau sydd wedi newid fy ffordd o edrych ar fywyd. Wedi newid fy ffordd o feddwl pwy neu beth ydw i.

Ceisiaf fy ngorau i roi cefndir i chi a wnaiff rhyw fath o ateb pwy ydw i. Ond, wrth gwrs, rwyf yn aelod o'r ddynol natur. Mae hynny'n ateb beth ydw i ond wrth reswm, mae'n gryn dipyn yn fwy na hynny. Roeddwn i'n meddwl mai athro oeddwn i. Gweithiais am oriau dros gyfnodau a bron i mi syrthio oddi ar y daith honno o "addysg uwch" droeon. Ond, es yn f'ymlaen a mwynhau pob tamaid ohono wrth gael fy ngwefreiddio gan y canlyniadau yr oeddwn wedi colli oriau ar ben oriau o fywyd cyffredinol, ac oriau cysgu na chaf fyth yn ôl, yn herio fy hun i'r eithaf tuag atynt. Ar ben hynny, yn llwyddo, ac yn llwyddo'n dda! Gradd 2:1 mewn Cymraeg (roedd elfennau eraill i'm gradd yn ogystal ond peryg i hynny ddatgelu gormod). Pasio TAR wrth ymarfer Cymraeg Iaith Gyntaf a Chymraeg Ail Iaith yn yr ail gyfnod. Gwych. Bendigedig. Dysgulots. Agoriadllygaid. Dimbydondmwynhau. Na! Sori. Roedd amser pan roedd y straen yn cael gafael arnoch chi. Felly dydi Dimbydondmwynhau ddim yn hollol gywir. Oedd 'na amser cythryblus wrth gynllunio gwersi a gorfod eu hysgrifennu munud fesul munud, paratoi am y gwersi hynny drwy greu adnoddau. PowerPoint. Wedyn, roedd gofyn i mi werthuso pob un o'r gwersi hynny. Yn y cyfamser roedd disgwyl i mi fonitro ac asesu cynnydd y dosbarthiadau yr oeddwn wedi'u mabwysiadu. Roeddwn wrth fy modd!! Allweddell y cyfrifiaduron yn tanio'n feunyddiol ac am oriau. Creu gwersi effeithiol iawn a'r dysgwyr i gyd yn mwynhau!! Ac wrth gwrs roeddwn yn cynllunio a chreu traethodau hefyd. Yr astudiaeth agored. Mwynheais i bob tamaid o'r profiadau. O'r diwrnod cyntaf i'r olaf o fy ngradd ac yna'r ymarfer dysgu. Dyma beth yr oeddwn i erbyn diwedd y cyfnod TAR - Athro!

Rydych chi'n gorffen y cwrs Tysysgrif Addysg i Raddedigion ddiwedd Mehefin. Doeddwn heb gael yr amser i hyd yn oed ddod o hyd i swydd yng nghanol yr holl waith ond cefais 3 gyfweliad. Roedd y gyntaf yn eithaf pell o'm cartref a buasai rhaid i mi ymgartrefu yno. Serch hynny, roedd awyrgylch yr ysgol yn arbennig o hyfryd. Roedd yr athrawon yn y staffrwm wedi ymlacio'n braf a'r sgwrs a'r chwerthin yn ddigonol. Ches i mohoni. Roedd fy narpar wraig yn falch ond ta waeth. Doeddwn i ddim. Roeddwn yn falch dros enillydd y swydd. Roedd hi ar fy nghwrs TAR ac yn haeddiannol iawn ohoni! Yna, cefais gyfweliad arall mewn ysgol a oedd rhyw awran yn y bore ac awr a hanner i ddod adref dwi'n tybio. Roedd hynny'n dderbyniol gan fy mod wedi gwneud tua'r un pellter wrth wneud f'ymarfer dysgu. Ond, ni chefais ei chynnig ac roeddwn ar ben fy nigon. Doeddwn i ddim eisiau gweithio yno a dweud y gwir. Ar ddiwrnod olaf y tymor ym mis Gorffennaf cefais gyfweliad arall a oedd yn eithaf pell, tua 3 chwarter awr. Roedd teimlad da yn yr ysgol. Ambell i wyneb cyfarwydd - 6 yn trio, un efo cysylltiad yno'n barod wrth wneud llanw yno. Ges i hi a threulies flwyddyn gyfan o'm bywyd yn yr ysgol hon. Roedd pob eiliad yn bleser llwyr. Ond, fel pob swydd arall ym myd addysg, blwyddyn cewch gynnig yn y lle cyntaf y dyddiau hyn. Felly, daeth swydd i fyny (i'r ysgol yr wyf ynddi ar hyn o bryd), ymgeisiais amdani a chefais yr anrhydedd o gael cynnig. Roedd y teimlad yn grêt, yr ysgol yn fendigedig. Roeddwn yn edrych ymlaen yn arw.

A dyna fo mewn gwirionedd. Dechreuais ym mis Medi a dwi'n fan hyn rŵan. Yn mwydro fy mhen fy hun a phen unrhyw un sydd eisiau clywed.............................gadewch neges os ydych yn gwrando.

My-Fi

No comments:

Post a Comment