Monday 2 December 2013

Dros Wythnos o'm Gwaith :-(

Yr wyf wedi bod i ffwrdd o'm gwaith ers dros wythnos bellach. Wedi colli pob ysbryd o fynd yn ôl i ddysgu a dweud y gwir. Yr wyf wedi colli fy holl hyder mewn gwirionedd. Cael teimlad o gryndod mwyaf sydyn wrth fynd i mewn i unrhyw le mae 'na bobl. Teimlo'n anesmwyth iawn a methu ateb y cwestiwn - "pam nad wyt ti yn dy waith?"

Dechreuodd y broblem yn yr ysgol. Roeddwn yn chwydu ac yn cael "rhif 2" afreolaidd o wlyb (sori - dim ffordd arall o'i ddweud) - yn teimlo fel fy mod i'n sâl go iawn. Crynu, teimlo'n oer, wedyn yn gynnes. Afiach o deimlad nad oedd yn braf. Yn enwedig wrth sefyll o flaen llond dosbarth o blant. Gwnes y penderfyniad i fynd adref y diwrnod hwnnw'n reit hawdd a dweud y gwir. Dydd Llun ydoedd ac roeddwn wrthi ar amser cofrestru gyda'm dosbarth hyfryd o flwyddyn CA3. Maen nhw'n wirioneddol hyfryd! Gallant fod yn eithaf siaradus ond ta waeth, plant ydy plant wrth reswm.

Serch yr holl anwyldeb yn y dosbarth, roeddwn i'n flin efo nhw. A dydw i ddim yn berson blin o gwbl, yn enwedig efo plant. Hanner awr o gyfnod tiwtorial a doeddwn fethu peidio â chodi fy llais er mwyn eu tawelu. Roeddwn yn chwysu fel mochyn a dim ond eisiau eistedd i lawr. Dyna a wnes i a dweud y gwir, a gadael iddyn nhw. Felly, yn dilyn y cyfnod roedd gwers 1 ar fin cychwyn. Diolch i'r drefn fy mod efo cyfnod CPA gwers 1 ar ddydd Llun.

Es i i weld y swyddog yr ydych yn siarad ag o/hi pan mae gennych broblem yn ein hysgol ni. Person gwerth chweil sydd wir yn edrych ar eich hol pan mae rhywbeth yn bod. Does dim pryder mynd i'w (g)weld o/hi o gwbl. Dywedais beth a oedd yn bod arnaf ac adref a fi. (Roeddwn i mewn "car share" a dim car felly roedd rhywun yn gorfod dod i fy nol - aeth hynny ddim i lawr yn dda iawn chwaith).
Roeddwn yn teimlo'r un peth ddydd Mawrth, ac yna ddydd Mercher. Yn enwedig yn y boreau. Felly, ddydd Mercher, gwnes i apwyntiad efo'r meddyg. Wel, mi drïes - ond doeddwn i'm yn cael! Dim lle! Tybiwn i mai ysgrifenyddesau'r meddygon sydd pia nhw!! Ond, ta waeth, ces apwyntiad ddydd Iau. Dechreuais siarad ag o am fy nheimladau a'r pethau a oedd yn digwydd i mi'n gorfforol.....

Pan ddywedodd o'r gair - roeddwn yn teimlo'n sâl go iawn - "depression". Ces i fraw, es i i grynu yn y fan a'r lle, cefais drafferth anadlu, roedd yn rhaid iddo fy nhrin. Des at fy hun. Ces dynnu gwaed rhag ofn bod nam corfforol a dyna ni...........

Ces i bapur ganddo i fy rhoi i ffwrdd o'm gwaith am wythnos i aros am ganlyniadau'r profion gwaed.....

Dof yn ôl atoch...... gadewch neges os gwelwch yn dda......
My-Fi

No comments:

Post a Comment