Thursday 5 May 2016

Ddiffyg Hyder - sgwar 1!

Prynhawn da Gymru Fach,

Nid oeddwn yn llwyddiannus. Ni chefais gynnig fy swydd fy hun. Ers hynny, dw i'n sâl. Dydw i ddim wrth fy ngwaith. Mae pryderon mawr yn codi oddi mewn i mi ac yn gwneud i mi deimlo'n fethiant hyd yn oed fwy byth y tro hwn. Teimlad nad wyf yn ddigon da i'r ysgol hon. Teimlo fel nad ddylwn wedi rhoi fy hun yn y sefyllfa o gwbl. Roedd y dysgwyr i gyd yn gobeithio y byddwn yn ennill fy swydd yn barhaol. Ond, na. Nid wyf yn ddigon da i'r ysgol. Felly, sut mae cyfleu hynny i'r dysgwyr sydd am holi os cefais fy nghyflogi? Gallaf ddeud nad wyf yn ddigon da i'r ysgol? Na, dydi hynny ddim yn opsiwn hyd y gwelaf fi. Gallaf ddweud wrthynt bod yr ysgol wedi gwneud penderfyniad ac wedi cyflogi rhywun gwell i'w haddysgu? Gallaf mae'n debyg. Ond, nid dyna sy'n fy nghadw o fy ngwaith hyd y gwelaf.

Nid wyf wedi bod yno ers y cyfweliad. Wedi bod yn sal felly ers dros wythnos. Wythnos gyfan a dau ddiwrnod i fod yn hollol gywir! Pam? Dyna;r cwestiwn! Ceisiaf fy ngorau i ateb y cwestiwn mor llawn ag y medraf a cheisiaf hefyd i beidio a'ch diflasu chi wrth ei ateb hefyd.

Teimladau o fod yn fethiant! Dyna'r ateb mewn gwirionedd ond credaf yn wir bod llawer mwy iddi na hynny. Heb os nac oni bai yr wyf wedi methu i fod yn rhan o'r ysgol fendigedig yr wyf yn dotio arni. Wedi methu wrth gyflwyno gwers fel rhan o'r breoses cyfweld. Wedi methu yn y cyfweliad ei hun hefyd. Ac, o ystyried fy nheimladau blaenorol wrth i mi fynd i ffwrdd yn sal, dyna'r union yr un peth sydd wedi a digwydd, yr wyf wedi colli fy hunan hyder. O ganlyniad i golli'r hyder hwnnw sydd wedi bod yn gryf ynof erioed, yr wyf wedi mynd yn sal. Does gen i ddim syniad chwaith sut i rhwystro'r llioedd o ddagrau sydd yn gwlychu fy wyneb wrth i mi geisio mynd i fy ngwaith. Hynny yw, yr wyf wedi ceisio mynd bob bore.

Ddydd Llun diwethaf, codais yn gynner fel yr arfer. Ymolchias a gwneud fy ngwallt fel a wnaf bob bore. Yna, gwisgais amdanaf a chsglu fy mhethau. Gafaelais yn allweddi fy nghar a mynd iddo. Arhosais yn fy unfan a theimlais fy nghorff y dechrau anesmwytho. Yn dechrau crynu gan ddechrau efo fy nwylo cyn teithio i fyny fy mreichiau ac ymhen dim, roedd fy nhorff i gyd yn teimlo fel ei fod yn crynu. Ofn. Dyna'r gair allweddol y tybiaf. Ofn o beth Duw yn unig a wyr. Does dim byd yn yr ysgol sydd i fod i godi ofn arna i nag unrhyw aelod arall o'i staff. Ond, dim ond y gair ofn sydd gennyf ar eich cyfer.

Ddydd Mawrth, mi wnes yn union yr un peth wrth godi o fy ngwely am mynd i'r car. Ond, roedd pethau'n teimlo llawer gwell y tro hwn. Taniais y car a gyrru i ffwrdd o fy nghartref. Cyrhaeddai y garej a rhoddais lymaid iddo. Eisteddais yn ol yn y sêt fawr yn awdurdodol a daeth y teimladau erchyll unwaith eto. Ond, roedd y teimladau'n waeth gan fy mod y tro hwn yn teimlo fy stumog yn troi ac yn marw eisiau chwydu. Roedd yn rhaid i mi ddanfon fy hun adref ac felly y bu.

Doeddwn ddim am adael i'r un peth ddigwydd i mi eto o ran fod i ffwrdd o fy ngwaith am gyfnod hir. Felly, fore ddydd Mercher, gwnes yr un peth. Mentrais. Roeddwn yn teimlo'n gryf iawn a danfonais fy nghar tuag at yr ysgol. Roedd Radio Cymru yn fy nghadw i rhag meddwl am y lle na'r ofn. Nes i mi weld yr ysgol ar y gorwel. Wedi ei gweld hi, wedi ei theimlo hi, roedd yn rhaid i mi symud fy nghar i gyfeiriad arall. A felly yr oedd hi, arhosais mewn maes parcio a galw'r ysgol i ddweud ble yr oeddwn i arni ac roedd yn rhaid ymddieuro nad oeddwn wedi galw cyn hynny yn unol a pholisi absenoldeb yr ysgol. Gofynnodd y Rheolwraig Busnes yn garedig os oeddwn am iddi ddod atof fi i weld os oeddwn yn iawn. Yna, danfonais fy hun am adref. Ni chefais groeso yno ychwaith. Rhywrai sydd yn fod i fy adnabod i'n iawn methu deall pam yr oeddwn yn gwneud lol! Dyna beth a elwir yn gefnogaeth!

Ta waeth, mae rhywrai eraill yn poeni'n arw am fy sefyllfa hefyd.

No comments:

Post a Comment